Rhybudd melyn am eira a rhew yng Nghymru wrth i ysgolion gau
Mae'r rhybudd melyn am eira a rhew yn parhau ar gyfer y rhan helaeth o Gymru ddydd Mercher, wrth i rai ysgolion orfod cau.
Mae rhai ysgolion wedi gorfod cau yn ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Powys, a Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod adroddiadau am geir yn mynd sownd yn yr eira yn ardal Merthyr Tudful, a mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio am hewlydd llithrig.
Mae'r rhybudd melyn wedi bod mewn grym ers 12:00 ddydd Mawrth a bydd yn parhau mewn rhai ardaloedd tan 12:00 ddydd Iau.
Mae disgwyl y bydd y ffyrdd a rheilffyrdd yn cael eu heffeithio.
Fe allai rhwng 5-10cm o eira ddisgyn ar diroedd uchel, a hyd at 15cm ar diroedd uwch.
Mae rhybudd hefyd y gallai'r rhew achosi anafiadau wrth i bobl lithro neu syrthio.
Dyma'r siroedd sydd yn cael eu heffeithio gan y rhybudd heddiw:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Caerfilli
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gâr
- Sir y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Môn
Llun: Heddlu Gogledd Cymru