Cau ysgolion ac amodau gyrru gwael oherwydd eira
Mae rhew ac eira wedi gorfodi i ffyrdd a rhai ysgolion yng Nghymru gau, gyda rhybudd i deithwyr am amodau gyrru gwael yn y gogledd-ddwyrain yn arbennig.
Syrthiodd y tymheredd i -7.7C ym Mhontsenni yn Sir Frycheiniog dros nos gan olygu mai dyma noson oeraf y flwyddyn hyd yma.
Mae rhybudd melyn am eira a rhew ar draws y gogledd heddiw, ac mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am noson arall oer a rhagor o eira heno.
Mae’r heddlu wedi rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd ac i ystyried peidio â theithio nes bod y tywydd yn gwella.
Daw’r rhybuddion pennaf yn y gogledd ddwyrain, gydag oedi ar yr A55 yn Sir y Fflint, ond mae adroddiadau am ddamweiniau ar draws Cymru.
Mae ysgolion Llanbedr, Trefnant, Santes Ffraid, Henllan a Chefn Meiriadog yn Sir Ddinbych ar gau oherwydd yr eira.
Yng Nghonwy mae ysgolion Bro Aled, Bryn Eilian, Pen y Bryn a Thalhaiarn ar gau.
Mae campws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-rhos hefyd ar gau.
“Mae cyflwr y ffyrdd ar hyn o bryd yn arbennig o wael ar draws gogledd Cymru oherwydd rhew ac eira,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Mae disgwyl i’r tywydd oerach barhau nes dydd Sadwrn pan fydd pethau’n cynhesu.