Newyddion S4C

Rhew ac eira: Heddluoedd Cymru yn rhybuddio am gyflwr peryglus y ffyrdd

16/01/2023
Eira / Rhew / Car

Mae heddluoedd Cymru yn rhybuddio am gyflwr peryglus y ffyrdd wrth iddi rewi nos Lun.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae'n nhw'n ymwybodol o sawl gwrthdrawiad ar lonydd cefn gwlad yn ardaloedd Rhuthun a'r Bala, ac mae'n nhw'n rhybuddio fod rhai ffyrdd wedi cau oherwydd rhew ac eira.

Mae rhybudd melyn ar gyfer rhew ac eira mewn grym tan brynhawn Mawrth. 

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio fod y ffordd rhwng Bleddfa a Threfyclo yn beryglus oherwydd amodau rhewllyd. 

Mae Heddlu De Cymru yn rhybuddio bod ia du yn achosi trafferthion ar nifer o ffyrdd y rhanbarth. 

Ac mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi fod Ffordd y Mynydd  ger Caerffili ynghau dros nos, tan fore Mawrth oherwydd yr amodau gwael yn sgil y tywydd rhewllyd. 

  

 

    

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.