Llywodraeth y DU yn 'ymosod ar ddatganoli' wrth geisio rhwystro deddf rhywedd Yr Alban
Mae Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi disgrifio ymdrechion Llywodraeth y DU i rwystro ei deddf rhywedd newydd fel "ymosodiad amlwg" ar annibyniaeth Senedd Yr Alban.
Bwriad y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd yw ei gwneud hi'n haws i bobl traws newid eu rhywedd yn gyfreithiol, gan lacio'r gofynion er mwyn derbyn tystysgrif cydnabyddiaeth rhywedd.
Byddai'r mesur yn gostwng yr isafswm oedran ar gyfer ymgeiswyr am y dystysgrif i 16, ac yn gostwng y cyfnod sydd ei angen i ymgeisydd fyw yn eu rhywedd penodedig o ddwy flynedd i dri mis.
Cafodd y ddeddf ei phasio yn Senedd Yr Alban ym mis Rhagfyr, gyda 86 o ASau yn pleidleisio o blaid o gymharu â 36 yn erbyn.
Ond, mae Ysgrifennydd Yr Alban yn Llywodraeth y DU, Alister Jack, bellach wedi cyhoeddi y bydd yn ceisio rhwystro'r ddeddf newydd gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Yr Alban.
Dywedodd Mr Jack y bydd yn cyhoeddi gorchymyn Adran 35 ddydd Mercher a fydd yn rhwystro'r ddeddf rhag cael cydsyniad Brenhinol, sef pryd mae deddf yn cael ei chydnabod yn ffurfiol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn fod y cyhoeddiad yn cynrychioli ymosodiad ar ddatganoli.
"Ymosodiad gwarthus a chywilyddus ar ddatganoli, democratiaeth a hawliau LHDTC+," meddai.
"Mae hawliau traws yn hawliau dynol. Mae'n rhaid i ni sefyll gydag ac o fewn y gymuned LHDTC+."
Yn ôl Llywodraeth y DU, daw'r penderfyniad i geisio rhwystro'r ddeddf yn sgil pryderon am yr effaith posib ar fenywod a phlant.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu'n "hollol gywir" wrth geisio rhwystro'r ddeddf.
"Byddai Bil Cydnabod Rhywedd Nicola Sturgeon yn caniatau i droseddwyr rhyw newid eu rhyw," meddai.