Boris Johnson 'wedi defnyddio perthynas bell' i warantu £800,000 o gredyd

15/01/2023
Boris Johnson (Llun Rhif 10)

Fe ddefnyddiodd Boris Johnson berthynas bell iddo oedd yn filiwnydd i warantu cyfleuster credyd gwerth £800,000 tra roedd yn Downing Street, yn ôl adroddiad.

Pan ofynnwyd i Mr Johnson am yr adroddiad, dywedodd llefarydd ar ei ran fod holl gyllid Mr Johnson “wedi ei, ac yn cael, ei ddatgan yn gywir”.

Dywedodd hefyd fod cyngor wedi ei dderbyn gan swyddogion Llywodraeth y DU a chynghorwyr ar foeseg cyn iddo wneud unrhyw drefniadau personol.

Yn ôl The Sunday Times, cytunodd y dyn busnes o Ganada Sam Blyth, oedd werth $50m miliwn, i weithredu fel gwarantwr ar gyfer cyfleuster credyd ar gyfer y prif weinidog ar y pryd.

Yn ôl yr adroddiad, mae Mr Blyth yn ffrind i dad Mr Johnson, Stanley Johnson. Y gred yw bod eu mamau yn gefndryd i'w gilydd.

Mae'n debyg fod y credyd ar gael i Mr Johnson o fis Chwefror 2021 i helpu gyda “treuliau o ddydd i ddydd”.

Pwysleisiodd llefarydd Mr Johnson “na chymerodd fenthyciad gan Sam Blyth”.

Dywed The Sunday Times fod Mr Johnson angen y gefnogaeth ariannol er iddo ennill £164,000 fel prif weinidog, gyda ffynhonnell ddienw yn dweud bod ofnau “na fyddai’n gallu talu ei fil treth blynyddol ei hun." 

Cyn ei gyfnod yn Downing Street, roedd yn cael ei dalu £275,000 y flwyddyn am ysgrifennu colofn wythnosol ar gyfer The Daily Telegraph — arian ddaeth i ben pan ddaeth yn brif weinidog.

'Gwrthdaro buddiannau'

Dywedodd y Sunday Times fod defnyddio Mr Blyth fel gwarantwr wedi’i gymeradwyo gan dîm priodoldeb a moeseg Swyddfa’r Cabinet ar yr amod “nad oedd gwrthdaro buddiannau, dim risg o wrthdaro buddiannau, a dim risg hyd yn oed o ganfyddiad o’r fath wrthdaro”.

Dywedodd yr adroddiad fod Mr Blyth yn cael ei ystyried, rhwng diwedd 2020 a dechrau 2021 - pan oedd y trefniadau gwarantwr yn cael eu rhoi mewn lle - ar gyfer swydd fel prif weithredwr y Cyngor Prydeinig.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Johnson nad oedd y cyn-brif weinidog wedi cynorthwyo nac yn ymwybodol bod Mr Blyth yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd gyda'r Cyngor Prydeinig.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd yr Ysgrifennydd Cabinet Simon Case a chynghorydd moeseg annibynnol ar y pryd i'r prif weinidog, yr Arglwydd Geidt, hefyd yn ymwybodol o hyn.

Yn y diwedd fe benderfynodd y Cyngor yn erbyn cyflogi Mr Blyth, meddai'r Sunday Times.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Mr Johnson: “Mae’n gwbl anwir fod Boris Johnson mewn unrhyw fodd wedi cynorthwyo, neu hyd yn oed yn ymwybodol o, unrhyw gais gan Sam Blyth – yn ffurfiol neu anffurfiol – i wasanaethu mewn unrhyw sefyllfa gyda’r Cyngor Prydeinig, ac nid oedd neb chwaith yn Rhif 10 yn gweithredu ar ei ran.

“Hyd y gwyddai, nid oedd neb yn Rhif 10 naill ai’n gwybod am y cais honedig hwn nac wedi gwneud unrhyw beth i’w symud ymlaen.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae holl fuddiannau ariannol Boris Johnson wedi’u datgan yn gywir ac yn cael eu datgan.

“Ceisiodd Boris Johnson gyngor gan Ysgrifennydd y Cabinet, y cynghorydd annibynnol ar fuddiannau gweinidogol, a’r tîm priodoldeb a moeseg.

“Dilynodd eu cyngor yn llawn, fel y mae Swyddfa’r Cabinet wedi’i gadarnhau.”

Llun: Rhif 10 Downing Street

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.