Newyddion S4C

Rhybudd melyn am rew mewn mannau nos Sul

15/01/2023
rhew

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ar gyfer rhannau o Gymru wrth i'r tymheredd ostwng.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 18:00 nos Sul ac yn para tan 10:00 fore ddydd Llun.

Fe allai'r amodau arwain at anafiadau wrth i bobl lithro neu syrthio.

Mae hefyd disgwyl trafferthion i deithwyr gydag ambell fan rhewllyd ar ffyrdd, ac ar balmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu trin.

Mae’r rhybudd yn berthnasol i wyth sir yng Nghyrmu:

- Ceredigion

- Conwy

- Gwynedd

- Powys

- Sir Ddinbych

- Sir y Fflint

- Wrecsam

- Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.