Teyrngedau i gadeirydd poblogaidd clwb pêl-droed Penrhyncoch
Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth cadeirydd clwb pêl-droed Penrhyncoch, ger Aberystwyth.
Roedd Kevin Jenkins, neu Kevin ‘Bones’ Jenkins fel yr oedd yn cael ei adnabod, wedi chwarae rhan hanfodol yn y gymuned bêl-droed yn yr ardal ac yn ehangach meddai'r clwb.
Wrth dalu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol disgifiodd Clwb Pêl-dreod Penrhyncoch ef fel “cawr o ddyn.”
“Diwrnod hynod o drist yn hanes ein Clwb yn dilyn colled ‘Bones’. Cawr o ddyn, â’i galon wedi ei wreiddio yn nwfn yng nghlwb Pêl Droed Penrhyncoch.
“Dyn ffeind, annwyl, bob amser â gwên. Cydymdeimlwn â Debbie a’r teulu.”
Fel Cadeirydd roedd yn genfogwr brwd o glwb Penrhyncoch, ac ar un adeg roedd yn aelod o’r tîm.
Fe wnaeth hefyd chwarae pêl-droed i dimau Aberystwyth, Sir Ceredigion, a Chymru ar wahanol adegau yn ei fywyd.
Pan oedd yn iau, roedd yn aelod gweithgar o Sefydliad Ieuenctid Tref Aberystwyth.
Roedd hefyd wedi bod yn hyfforddwr i nifer o dimau ieuenctid yn ogystal â thimau merched.