Chwech o bobl gan gynnwys dwy ferch ifanc wedi eu saethu yn Llundain
Mae chwech unigolyn gan gynnwys dwy ferch saith a 12 oed wedi’u hanafu mewn achos o saethu yng nghanol Llundain.
Dywedodd yr heddlu bod y ferch saith oed wedi profi anafiadau sy'n peryglu ei bywyd, ond mae'r ferch 12 oed wedi ei rhyddhau o'r ysbyty.
Mae’r menywod eraill sydd yn 54, 48, 41, a 21 oed, yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad.
Digwyddodd y saethu tu allan i Eglwys Gatholig St Aloysius ar Heol Phoenix yn Euston am tua 13:30 ddydd Sadwrn.
Mae eu hanafiadau wedi cael eu hasesu fel rhai nad ydynt yn peryglu eu bywydau, er y gallai fod gan y ddynes 48 oed anafiadau allai newid ei bywyd.
Dywedodd swyddogion Heddlu'r Met fod eu hymholiadau cychwynnol yn awgrymu bod yr ergydion wedi dod o gerbyd oedd yn symud, cyn cael ei yrru i ffwrdd o'r lleoliad.
Nid oes unrhyw un wedi ei arestio ac mae swyddogion wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 3357/14Jan.
Llun: Google