Galw ar bobl i gadw draw o adeilad hanesyddol yn Sir Gâr

14/01/2023
S4C

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi galw ar bobl i gadw draw o adeilad hanesyddol yn Sir Gâr.

Yn ôl yr heddlu mae adroddiadau bod pobl wedi bod yn teithio o bob rhan o’r wlad i i fynd i mewn i Dŷ Gelli Aur yng Nghaerfyrddin heb hawl na gwahoddiad dros yr wythnosau diwethaf.

Fe gafodd fideo ei chyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol o anturiaethwyr trefol neu ‘urban explorers’ y tu mewn i Dŷ Gelli Aur.

Ddydd Iau, 5 Ionawr, arestiwyd tri dyn, dau 27 oed ac un yn 26 oed, yn yr eiddo ar amheuaeth o fwrgleriaeth.

Mae'r tri wedi'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau

Dywedodd Ditectif Sarjant Owen Lock: “Rydym yn ymwybodol o fideos ar-lein sydd wedi denu rhai pobl i’r tŷ, fodd bynnag, er gwaethaf yr hyn y gall y fideos ei ddweud, nid yw’r eiddo yn adfail.

“Mae’r perchennog wedi adrodd am ddwyn nwyddau o’r tu mewn, sy’n cael ei ymchwilio ar hyn o bryd.

“Gall mynd i mewn i eiddo fel y rhain fod yn beryglus ac fe allech chi gael euogfarn am fyrgleriaeth yn y pen draw, peidiwch â gwneud hynny.”

Mae swyddogion, sy'n ymchwilio i'r digwyddiad wedi cynyddu patrolau yn yr ardal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.