Arian ychwanegol i helpu myfyrwyr gyda chostau byw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cyllid newydd er mwyn cefnogi myfyrwyr yn sgil yr argyfwng costau byw.
Fe fydd y pecyn gwerth £2.3m yn ariannu ystod o fesurau i helpu myfyrwyr.
Yn eu plith mae darparu cyngor ariannol i fyfyrwyr mewn addysg uwch, gan gynnwys rhai sydd yn symud o ysgol uwchradd neu goleg.
Fe fydd cronfeydd caledi hefyd yn cael eu ehangu, er mwyn cynnig cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr sydd yn wynebu pwysau ariannol.
Wrth gyhoeddi'r pecyn cyllid, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae’r cam o’r coleg neu’r ysgol i’r brifysgol yn gallu bod yn gyfnod heriol, yn enwedig os yw rhywun yn byw oddi cartref am y tro cyntaf.
"Dw i’n falch dros ben o gael cyhoeddi cyllid ychwanegol i wneud yn siŵr bod ein prifysgolion yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi myfyrwyr.”
Ychwanegodd Llywydd NUS Cymru, Orla Tarn bod y "buddsoddiad hwn yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae'r argyfwng costau byw yn ei gael ar iechyd meddwl myfyrwyr.
"Mae'r ffocws ar roi hwb i wasanaethau cymorth ariannol a sicrhau bod arian caledi ychwanegol ar gael i'w groesawu ac yn angenrheidiol o ystyried y straen sylweddol ar bocedi myfyrwyr prifysgol ar hyn o bryd."