
Angen 'rheolau llymach' wrth brisio a gwerthu tai yng Nghymru
Mae gwerthwr tai yn y gogledd yn galw am “gyfreithiau gwell” ar gyfer y diwydiant dai yng Nghymru.
Mae gan Ian Wyn Jones dros 25 mlynedd o brofiad yn gwerthu tai ar draws Prydain, ac mae ar hyn o bryd yn gweithio yng ngogledd orllewin Cymru.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Mr Jones bod angen i’r diwydiant “gael rheolau mwy llym” wrth brisio a gwerthu tai.
“Mae pobl yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gwerthu tai drwy ofyn am ‘offers over’ sy’n arwain at bidding wars.
“Dw’n casáu bidding wars. Dydio ddim yn deg achos ma’n achosi pobl fynd i negative equity yn syth os yn prynu tŷ am bris rhy uchel.
“Dwi yn meddwl bod angen cyfreithia gwell ar y diwydiant.”
Ychwanegodd Mr Jones bod rheoliadau asiantaeth tai yn “llawer rhy agored.”
“Fedrith estatage agency rhoi tŷ at y farchnad efo offers over unrhyw bris, ond ydi huna yn politically correct?”

Yn ôl Mr Jones pwrpas gofyn am gynnig dros y pris sydd yn cael ei ofyn am dano yw ategu na fydd y gwerthwyr yn derbyn pris llai na’r hyn maent yn gofyn am.
“Dwi yn gwerthu tai ar offers over fel bod pobl yn gwybod mai dyma’r pris lleiaf neith y person dderbyn am y tŷ, dim i bwsio pris i fyny a chychwyn bidding wars,” meddai Mr Jones.
Mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn prisiau tai dros y tair blynedd diwethaf, wrth i fwy o bobl weithio o adref a thwf mewn gwerthiant ail dai yn ystod y pandemig arwain at godiad o 26.3% mewn prisiau yn ôl ystadegau Llywodraeth y DU.
'Angen rheolaeth o’r farchnad'
Dywedodd Mr Jones bod y blynyddoedd diwethaf wedi newid y farchnad dai, ac nid yw’n meddwl y bydd prisiau yn dychwelyd i brisiau cyn Covid.
“Dros Covid oedd pobl yn prynu tai heb hyd yn oed gweld y tai.
“Ac ers y pandemig da ni wedi cael y mini budget, y rhyfel yn Wcráin lle ma’ cost o fyw yn mynd y uchel ac wedi effeithio cyfraddau morgais felly dydi pawb methu fforddio tai ar hyn o bryd.”
“Dwi yn meddwl bydd prisiau tai yn aros yr un fath, ond bydd rhai ardaloedd yn gweld gostyngiad bach iawn dros Gymru a thu hwnt.”
Dywedodd Mr Jones bod angen newidiadau i’r diwydiant er mwyn gweld newidiadau.
“Ar y funud os dydan ni ddim yn taclo hynny bydd prisiau tai dal yn mynd yn wirion. Da ni angen rheolaeth o’r farchnad.”
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw.