Pwy fydd capten nesaf tîm pêl-droed dynion Cymru?

15/01/2023

Pwy fydd capten nesaf tîm pêl-droed dynion Cymru?

Ar 9 Ionawr fe wnaeth Gareth Bale gyhoeddi ei fod ymddeol o chwarae pêl-droed, wedi iddo chwarae 111 o weithiau a sgorio 41 o goliau dros ei wlad.

Bale oedd capten Cymru wrth iddynt gystadlu yng Nghwpan y Byd Qatar 2022, y tro cyntaf i Gymru chwarae yn y gystadleuaeth ers 1958.

Er mai siomedig oedd y perfformiadau, bydd y llyfrau hanes yn adrodd mae Bale wnaeth arwain ei dîm i Qatar, un o nifer o gyflawniadau'r gŵr o Gaerdydd ers iddo wisgo'r crys coch am y tro cyntaf.

Ond mae ei ymddeoliad yn gadael bwlch yn nhîm Cymru. Pwy felly fydd yn camu i'r adwy i lenwi esgidiau Bale, a phwy fydd capten newydd Cymru?

Ben Davies

Dywedodd Rob Page mewn cynhadledd i'r wasg ei fod wedi dewis ei gapten yn barod, ac mae nifer yn meddwl mai Ben Davies fydd ei ddewis.

Mae'r chwaraewr Tottenham wedi bod yn ganolog i fur amddiffynnol Cymru, ac wedi chwarae'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae wedi chwarae 77 o gemau i'w wlad, a sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn Belarws ym mis Tachwedd 2021.

Roedd yn allweddol i ymgyrchoedd Euro 2016 a 2020 i Gymru, ac mae ei brofiad ar y llwyfan rhyngwladol ac i'w glwb yn ei wneud yn un o brif ymgeiswyr i fod yn gapten Cymru.

Joe Allen

Chwaraewr hollbwysig arall i Gymru yw Joe Allen.

Mae wedi selio ei hun fel un o enwau cyntaf yn nhîm Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddo chwarae'n gyson i Lerpwl, Stoke City a nawr yn ei glwb presennol Abertawe.

Yn ddiweddar, mae'r chwaraewr canol cae wedi bod yn anlwcus gydag anafiadau, ond fe gafodd gyfle i chwarae rhan yn ymgyrch Cwpan y Byd Cymru.

Mae wedi chwarae 74 o gemau dros Gymru, gan sgorio dwy o goliau - ond ei ddawn amddiffynnol sydd yn ei wneud yn gadarn yng nghanol cae Cymru.

Fe wnaeth Stoke City ymddiried ynddo i fod yn gapten y clwb, ac mae eisoes wedi bod yn gapten ar Gymru pan oedd Ashley Williams ddim ar gael i wynebu'r Iseldiroedd yn 2014.

Aaron Ramsey

Cafodd Ramsey ymgyrch i'w anghofio yng Nghwpan y Byd, ond ni ddylai hynny fod yn gysgod ar ei yrfa ryngwladol.

Yn rhan o dîm y twrnament yn Euro 2016, gan sgorio yn erbyn Twrci yn Euro 2020, mae Ramsey yn un o'r chwaraewyr gorau i wisgo crys Cymru.

Yn 32 oed mae'n chwarae i glwb OGC Nice yn Ffrainc, wedi iddo adael Juventus yn Yr Eidal.

Ynghyd ag Allen, mae Ramsey wedi selio ei hun yng nghanol cae Abertawe, gan amlaf yn chwarae tu ôl i'r ymosodwyr mewn rôl greadigol.

Os nad yw'n ymddeol, fe fydd yn sicr yn enw y bydd Rob Page wedi meddwl amdano cyn gwneud ei benderfyniad - a pwy a ŵyr efallai mai Rambo fydd capten newydd Cymru.

Wayne Hennessey

Ffrind gorau Gareth Bale ac arwr y gêm wnaeth sicrhau lle Cymru yng Nghwpan y Byd yw Wayne Hennessey.

Fe sydd wedi bod yn rhif un Cymru ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2007, ac mae'n ddigon hawdd gweld pam.

Yn chwaraewr cyson a medrus, mae Hennessey wedi achub Cymru ar fwy nag un achlysur ar hyd y blynyddoedd.

Roedd ei berfformiadau yn erbyn Hwngari yn 2019 ag Wcráin yn 2022 yn hanfodol i sicrhau bod Cymru yn cyrraedd Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Erbyn hyn, mae Page wedi bod yn chwarae Hennessey a Danny Ward am yn ail, gyda'r naill neu'r llall yn rhif un pendant iddo.

Efallai bydd hyn yn cael effaith ar ddewis Hennessey fel capten - ond yn sicr mae ganddo'r profiad a'r sgiliau arweinyddol i gyflawni'r swydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.