Newyddion S4C

‘Lletchwith’ bod yn sosialydd sy'n dadlau ag undebau medd Drakeford

‘Lletchwith’ bod yn sosialydd sy'n dadlau ag undebau medd Drakeford

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn “lletchwith” bod yn sosialydd sydd yn dadlau ag undebau llafur.

Daw ei sylwadau yn y Financial Times wedi i Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru gyhuddo Llywodraeth Cymru o “beidio â thrafod cyflogau o ddifrif”.

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, nad oedd Llywodraeth Cymru yn “cymryd cyfrifoldeb” am y broblem ac yn pasio’r bai i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Mark Drakeford fod yr anghydfod wedi ei adael mewn safle “lletchwith”.

“Mae’n lletchwith bod yn Brif Weinidog Llafuraidd sydd wedi gweithio yn galed iawn ochor yn ochor gyda’n cyfeillion yn yr undebau wrth reoli streiciau yn y gorffennol,” meddai.

“Dyw e ddim yn safle cyfforddus iawn i fod ynddo, pan mae nifer o’u dadleuon nhw'n rai mor bwerus yn ein tyb ni.”

‘Cydnabod’

Ar raglen Y Byd yn ei Le S4C neithiwr dywedodd yr arbenigwr ar weleidyddiaeth Cymru, yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd, bod “risg gwleidyddol sylweddol iawn” i Lywodraeth Cymru.

“Mae o yn ddiddorol iawn,” meddai. “Yn wleidyddol mae datganiad yr RCN heddiw - dw i ddim wedi gweld unrhyw undeb yn ymosod ar Lywodraeth Cymru mewn ffordd mor gignoeth erioed a da ni ‘di gweld heddiw.”

Ddoe dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan ei bod yn ddiolchgar wrth Goleg Brenhinol y Nyrsys a gweithwyr ambiwlans am drafod â nhw.

"Hoffwn ddiolch i'r holl undebau iechyd am ddod i'r cyfarfod heddiw ac am gymryd rhan mewn modd adeiladol,” meddai.

"Rydym yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimlad ymhlith aelodau'r undebau, sydd wedi ei fynegi drwy'r pleidleisiau diweddar dros weithredu diwydiannol a'r streiciau sydd wedi dilyn.

"Gobeithio gallwn ni barhau gyda'r trafodaethau hyn yn ein hysbryd o bartneriaeth gymdeithasol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.