Newyddion S4C

Rishi Sunak i ddadlau dros 'fanteision yr Undeb' wrth ymweld â'r Alban

12/01/2023
S4C

Mae disgwyl i Rishi Sunak ddefnyddio ei ymweliad â’r Alban ddydd Iau i dynnu sylw at fanteision aros yn y Deyrnas Unedig, wrth iddo geisio atal ymdrechion Nicola Sturgeon am annibyniaeth.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gynnal trafodaethau wyneb yn wyneb â Phrif Weinidog yr Alban yn ystod ei daith i'r wlad, sydd yn para am ddeuddydd.

Dywedodd y Daily Telegraph y bydd yr ymweliad wedi ei amseru i gyd-fynd gyda’r cyhoeddiad am ddau borthladd rhydd newydd ger Caeredin ac Inverness.

Mae perthynas Llywodraeth y DU â gweinyddiaeth Ms Sturgeon yn yr Alban wedi bod dan straen o achos y ddadl dros annibyniaeth, ac hefyd gan y gallai San Steffan rwystro deddfau cydnabod rhyw Holyrood.

Hwn fydd ymweliad cyntaf Mr Sunak â’r Alban fel Prif Weinidog, er ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda Ms Sturgeon o’r blaen ac mae'r ddau wedi cyfarfod yn Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Blackpool.

Mewn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Mr Sunak ei fod eisiau gweithio gyda Llywodraeth yr Alban ar fater diwydiant olew a nwy Môr y Gogledd.

Ond honnodd nad yw llywodraeth Ms Sturgeon “am gefnogi diwydiant ynni’r Alban a’r 200,000 o swyddi y mae’n eu cynhyrchu”.

Roedd yn ymateb i arweinydd yr SNP yn San Steffan, Stephen Flynn, a ddywedodd nad yw aelodaeth yr Alban o undeb y DU “yn syml iawn”.

Dywedodd Mr Sunak: “Rwy’n awyddus i weithio gyda Llywodraeth yr Alban i gefnogi Môr y Gogledd oherwydd mae’n rhywbeth yr ydym i gyd yn falch iawn ohono yn y DU.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.