100,000 o weision sifil i fynd ar streic ym mis Chwefror
Fe fydd tua 100,000 o weision sifil yn mynd ar streic ar ddechrau mis Chwefror wrth i anghydfod ynglŷn â thal ac amodau gwaith ddwysau.
Dywedodd yr undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) y byddai eu haelodau ar draws 124 adran o'r llywodraeth yn cerdded allan am 24 awr ar 1 Chwefror.
Mae nifer o aelodau'r undeb eisoes wedi mynd ar streic dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys gweithwyr Llu'r Ffiniau a'r DVLA.
Ond yn ôl y PCS, dyma fydd y streic fwyaf ymysg gweision sifil ers blynyddoedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, Mark Serwotka, eu bod wedi "rhybuddio" y llywodraeth fod streic ar y ffordd.
"Mis diwethaf pan oedd miloedd o aelodau'r PCS ar draws adrannau yn streicio, dywedodd y Llywodraeth nad oedd dim arian.
"Ond cafodd miliynau o bunnau eu gwario ar reolwyr ac aelodau'r fyddin mewn ymdrech i lenwi'r bwlch.
"Roeddem wedi rhybuddio'r Llywodraeth y byddai'r anghydfod yn gwaethygu os nad oedden nhw'n gwrando, ac rydym yn cadw at ein gair."