Newyddion S4C

Gweithwyr ambiwlans yn mynd ar streic yng Nghymru

11/01/2023
streic ambiwlans

Bydd gweithwyr ambiwlans sy'n aelodau o undeb GMB yn mynd ar streic yng Nghymru ddydd Mercher mewn anghydfod dros gyflog a staffio.

Dyma'r ail waith i aelodau'r undeb streicio mewn tair wythnos. 

Ni fydd unrhyw un o'r gweithwyr yn streicio am fwy na 12 awr, ond mae arweinwyr iechyd wedi rhybuddio y bydd pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd yn sgil y streic. 

Mae disgwyl i gleifion orfod disgwyl yn hirach am alwadau 999 ac 111, gyda llai o ambiwlansys ar y ffyrdd. 

Er hyn, mae disgwyl i weithwyr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dderbyn cynnig taliad untro gan y llywodraeth er mwyn ceisio dod â'r streiciau i ben.

Yn ôl undebau, mae'r cynnig presennol o 4% o godiad cyflog yn cynrychioli "toriad cyflog mewn gwirionedd" gan nad yw'n unol â chyfradd chwyddiant. 

Mae undeb y GMB yn dweud fod y gwasanaeth iechyd "ar ei gliniau, ac ni all pethau barhau fel hyn. Mae'r cyhoedd yn dioddef yn ddyddiol oherwydd bod y llywodraeth wedi methu â chynllunio ar gyfer ein gwasanaeth iechyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pam bod cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio yn y ffordd y gwnaethant yn ogystal â'r dicter a'r siom mae cymaint o weithwyr yn y sector gyhoeddus yn ei deimlo ar hyn o bryd. 

"Ond mae'n hanfodol ein bod ni gyd yn gwneud popeth yn ein gallu i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol ac ystyried yn ofalus pa weithgaredd i'w gwneud." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.