Ystyried cynllun i ailwampio adeilad anarferol ar Ynys Môn
Bydd un o bwyllgorau Cyngor Ynys Môn yn ystyried cynllun i ailwampio adeilad amddiffynnol anarferol o'r Ail Ryfel Byd ddydd Mercher.
Mae perchnogion yr adeilad yn gobeithio cael caniatâd i atgyweirio'r adeilad rhestredig yng Nghaergybi.
Disgrifir yr Adeilad Rhestredig Gradd II o’r 1940au fel “enghraifft anarferol” o’r math hwn o adeilad amddiffynnol.
Y gred yw mai dyma’r unig un o’i fath ar yr ynys.
Bydd cynlluniau i addasu ac atgyweirio’r nodwedd hanesyddol yn cael eu hystyried gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae'r strwythur crwn, a fyddai yn wreiddiol wedi edrych allan tua'r môr a phorthladd Caergybi, bellach wedi'i amgylchynu gan dai modern.
Mae’r cais cynllunio wedi ei gyflwyno gan Efan Milner, trwy’r asiant Pieter Jacobs, o’r cwmni Ramboll.
Mae'r cynlluniau'n galw am waith atgyweirio sy'n cynnwys trwsio craciau a byddai cerrig coll hefyd yn cael eu hailosod.
Mae’r cynllun yn disgrifio fel y cafodd blychau amddiffynnol eu hadeiladu’n gyflym yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ddarparu amddiffynfeydd arfordirol rhag ofn y byddai ymosodiad llawn ar dir mawr Prydain.
Roeddent yn darparu man diogel lle y gallai arfau gael eu tanio trwy ffenestri cul.
Gerllaw mae Cofeb Skinner, sy’n dathlu cymeriad o Gaergybi, y Capten John Macgregor Skinner a aned yn America, a fu farw ar y môr ym 1832.