Teyrngedau teuluoedd i ddwy fenyw fu farw mewn afon ym Mhowys
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddwy fenyw fu farw mewn afon ym Mhowys.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi mai enwau'r ddwy fenyw oedd Rachael a Helen Patching, 33 a 52 oed, o ardal Caint yn Lloegr.
Roedd y ddwy ar eu gwyliau ac yn ymweld â Chymru ar y pryd.
Mae eu teuluoedd wedi rhyddhau datganiad ar y cyd gan roi teyrnged yn ogystal â diolch i'r bobl a wnaeth geisio dod o hyd iddynt.
"Mae ein calonnau wedi torri o fod wedi dioddef colled mor aruthrol yn dilyn y newyddion fod Rachel a Helen wedi marw, yn ddim ond 33 a 52 oed.
"Roedden nhw'n gwpl ymroddgar a chariadus, a gafodd effaith hynod o bositif ar bawb a wnaeth eu cyfarfod.
"Bydd eu chwerthin di-ddiwedd yn cael ei gofio gan bawb a gafodd y pleser o'u hadnabod.
"Does dim geiriau i fynegi cymaint o feddwl oedd gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr ohonynt."
Fe wnaethant hefyd ddiolch i wirfoddolwyr tîm achub mynydd Bannau Brycheiniog, yr heddlu, Cymorth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Sir Powys am "helpu cymaint ar amser mor anodd."