Bydd Cymru yn cydnabod rhyw pobol sy’n ei newid dan ddeddf newydd yn yr Alban medd Mark Drakeford
Bydd Cymru yn cydnabod rhyw pobol sy’n ei newid dan ddeddf newydd yn yr Alban, meddai’r Prif Weinidog.
Mae Llywodraeth y DU wedi bygwth rhwystro diwygiadau i’r broses cydnabod rhyw yn yr Alban wedi i’r senedd yno gefnogi'r ddeddf newydd.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn synnu at hynny o ystyried bod Llywodraeth y DU yn cydnabod rhyw pobol sydd wedi newid hunan-ddatgan mewn gwledydd eraill.
Ychwanegodd y byddai Cymru yn cydnabod rhyw unrhyw un oedd yn ei newid yn yr Alban a bod Llywodraeth Cymru eisiau’r grymoedd i gyhoeddi deddfwriaeth debyg.
“Mae hwn wedi bod yn ddadl sydd wedi polareiddio pobol, a rôl gwleidyddion yn fy marn i yw annog trafodaeth yn lle gwrthdaro,” meddai.
“Ges i fy synnu gan ymateb Llywodraeth y DU - maen nhw’n bygwth defnyddio pŵer sydd erioed wedi ei ddefnyddio yn hanes datganoli.
“Ac ymddengys eu bod nhw'n dweud na fydden nhw’n derbyn tystysgrif cydnabod rhyw o’r Alban pan maen nhw eisoes yn cydnabod tystysgrifau [o wledydd eraill].
“Mae nifer o’r cenhedloedd rheini yn defnyddio’r un broses hunan-ddatgan a’r Alban.
“Felly pan mae gyda ni broses sy’n adnabod tystysgrifau o rannau eraill o’r byd mae’n rhyfedd nad ydyn nhw’n fodlon cydnabod tystysgrif sydd wedi ei greu mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
“Hoffwn i ddweud hyn er mwyn bod yn hollol glir - os oes unrhyw un yn derbyn tystysgrif cydnabod rhyw yn yr Alban ac yn dod i Gymru fe fydd y tystysgrif yn cael ei gydnabod yma.”
‘Peryglon’
Dywedodd Laura Anne Jones yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd fod gan ei phlaid hi bryderon am y ddeddfwriaeth yn yr Alban.
“Mae yna bryderon amlwg wedi i’r ddeddfwriaeth gael ei brysuro drwy’r Alban a sut y bydd hynny’n effeithio ar fenywod yma yng Nghymru," meddai.
Dywedodd y byddai caniatáu i droseddwyr rhyw hunan-ddatgan eu rhywioldeb yn dod â “peryglon amlwg”.
Galwodd ar Mark Drakeford i “ddiystyru” cyflwyno deddfwriaeth o’r fath yng Nghymru, ond gwrthododd wneud hynny.