Pris petrol yn is na 150c y litr am y tro gyntaf ers dechrau rhyfel Wcrain
Mae pris petrol wedi gostwng yn is na 150c y litr ar gyfartaledd am y tro gyntaf ers i Rwsia ymosod ar Wcráin.
Yn ôl ffigyrau gan y cwmni Experian, syrthiodd y prif cyfartalog ar gyfer petrol i 149.7c y litr ddydd Llun - ei lefel isaf ers mis Chwefror 2022.
Fe wnaeth prisoedd tanwydd gynyddu'n sylweddol pan ddechreuodd rhyfel Wcráin, wrth i wledydd Ewrop osod sancsiynau ar Rwsia, un o brif allforwyr nwy ac olew.
Cyrhaeddodd prisoedd petrol eu lefel uchaf erioed ym mis Gorffennaf y llynedd yn sgil y gwrthdaro, gan godi i 191.5c y litr.
Mae prisoedd disel hefyd wedi disgyn yn sylweddol, o uchafbwynt o 199.1c y litr i 172.2c y litr ar ddydd Llun.
Er hyn, mae disgwyl i brisoedd tanwydd godi'n uwch erbyn mis Mawrth. Daw hyn wrth i doriad ar dollau tanwydd gwerth 5c y litr ddod i ben.
Dywed yr AA fod y gostyngiad yn "rhyddhad enfawr" i yrwyr, wrth i'r pris cyfartalog ar gyfer llenwi tanc ostwng dros £20 o'i gymharu â haf y llynedd.