Newyddion S4C

Eid: Digwyddiad torfol cyntaf yng Nghymru ers dros flwyddyn

Newyddion S4C 13/05/2021

Eid: Digwyddiad torfol cyntaf yng Nghymru ers dros flwyddyn

Fe gafodd digwyddiad torfol cyntaf yng Nghymru ers dros flwyddyn ei gynnal ddydd Iau, gyda dros i gant o bobl yn ymgynnull yng Nghastell Caerdydd i ddathlu Eid. 

Daw hyn yn sgil cynllun peilot y llywodraeth i geisio ail-gychwyn digwyddiadau mawr yn ddiogel wrth i ganllawiau Covid-19 lacio.

Mae Eid yn ŵyl Fwslimaidd, sydd yn cael ei ddathlu ledled y byd i nodi diwedd mis o ymprydio yn ystod Ramadan. 

Dywedodd Laura Jones, a oedd wedi mynychu'r digwyddiad yng Nghaerdydd, ei bod yn gyfle 'cyffrous' i ddathlu'r ŵyl â phobl eraill. 

“'Da ni'n teimlo reali eithaf cyffrous achos mae'n siawns i ni ddathlu Eid ar gyfer y gymuned Moslemaidd," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

"Ar gyfer y ddau Eid diwethaf mae wedi bod yn anodd achos o'r cyfyngiadau Covid.

"So i fod yma heddi mae'n reali neis i gael y siawns i wneud hwn.”

Yn ôl Aysha Rajak, a oedd hefyd wedi mynychu'r digwyddiad, roedd y cyfle i ddathlu ar dir y castell yn un unigryw. 

“Mae fel cyfle sydd ond yn dod unwaith mewn oes," dywedodd Aysha. 

"'Da ni byth wedi clywed am Eid yn y castell. Felly mae wedi bod yn eithaf cyffrous i ddod â'r teulu a'r gymuned at ei gilydd a gwneud popeth gyda'n gilydd, yn enwedig ar ôl y pandemig.”

Roedd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn obeithiol y byddai llwyddiant y digwyddiad torfol yn arwain at fwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol.

“Wel mae e'n ryddhad ac mae'n deimlad gwych i ni gael bod yma i weld y digwyddiad cynta' o ail-agor yr economi ddigwyddiadau.

"Dwi yn gobeithio'n fawr mae hwn fydd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau fydd yn arwain yn gyflym ond yn ddiogel at ail-agor y sector ddigwyddiadau yn llawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.