Cyhoeddi cynllun i ddatblygu labordy meddigyniaeth niwclear yn y gogledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu labordy meddigyniaeth niwclear cenedlaethol yn y gogledd-orllewin.
Petai'r cynllun yn gweld golau dydd, fe fyddai'r labordy yn cynhyrchu radioisotopau meddygol ac yn eu cyflenwi i GIG Cymru a'r Gwasanaethau Iechyd Gwladol eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae radioisotopau meddygol, sef sylweddau ymbelydrol, yn hanfodol wrth wneud diagnosis a thrin canser a sawl clefyd arall.
Mae cyfarpar mewn cyfleusterau sydd ar hyn o bryd yn cynhyrchu radioisotopau meddygol yn dod i ddiwedd eu hoes ac yn cael eu cau ar draws y DU ag Ewrop.
Bwriad y cynllun fyddai mynd i'r afael ag "argyfwng cyflenwi" ar gyfer meddygaeth niwclear ledled y byd medd y llywodraeth.
Erbyn 2030, mae'r DU yn wynebu'r sefyllfa o beidio â chael unrhyw radioisotopau meddygol, neu'r “hunllef foesegol” o orfod eu dogni, meddai'r llywodraeth.
Swyddi
Byddai'r cynllun hefyd yn helpu i ysgogi economi’r Gogledd drwy "greu swyddi hirdymor" gan gynnwys rolau fel gwyddonwyr ymchwil a pheirianwyr, gyrwyr, staff gweithrediadau, cynhyrchu, technegol a swyddfa.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Ein gweledigaeth yw creu prosiect ARTHUR – cyfleuster meddygaeth niwclear sy'n arwain y byd, ac a fydd yn dwyn ynghyd màs critigol o waith ymchwil, datblygu, ac arloesi ym maes gwyddorau niwclear.
“Yn sgil y datblygiad hwn, nid yn unig y gall Cymru ddod yn lleoliad blaenllaw yn y DU ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol – drwy gynhyrchu radioisotopau meddygol sy'n achub bywydau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud diagnosis a thrin canser – ond gallwn hefyd ddenu swyddi hynod fedrus, creu seilwaith amgylchynol, cefnogi cymunedau lleol, ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol.
“Bydd y prosiect hwn yn hanfodol o ran ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus, drwy greu'r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru.”
Ariannu'r cynllun
Ychwnaegodd y llywodraeth bod angen sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau, gan gynnwys Llywodraeth y DU i greu prosiect ARTHUR.
Mae Mr Gething yn galw ar Lywodraeth y DU am gefnogaeth arianol ac i “gydweithredu i gefnogi ein hymdrechion, gan fod y datblygiad hwn yn cefnogi ac o fudd i ddiagnosteg a thrin canser yn y dyfodol ar draws y DU.
“Bydd goblygiadau peidio â gweithredu'n cael eu cyfrif mewn bywydau dynol ac mewn pwysau economaidd hirdymor ar wasanaethau iechyd, drwy driniaethau iechyd anghynaliadwy.
“Rydym bellach yn profi pwysau economaidd digynsail – ond nid yw hynny'n esgus dros fethu â chynllunio ar gyfer yr angen clir hwn yn y dyfodol. Rhaid i ni atal argyfwng iechyd ac economaidd yn y dyfodol. Felly, rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb technegol ac ar gyfer datblygu Cynllun Busnes Amlinellol. Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar waith technegol sydd eisoes wedi'i wneud a'r Cynllun Busnes Amlinellol Strategol cynharach.”