Y llywodraeth yn ystyried galw i mewn cais ffermwr am siediau i ddal 100,000 o ieir
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried galw i mewn cais ffarmwr am siediau a fyddai yn dal dros 100,000 o ieir.
Mae Cyngor Powys wedi derbyn llythyr gan swyddfa gynllunio Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi derbyn cais i weinidogion ystyried y datblygiad.
Byddai'r fferm yn cael ei hadeiladu ger Llanfair-ym-muallt yn ne Powys pe bai cais Lyndon Jones o Gwmafan, Llanafan Fawr yn llwyddiannus.
Mae eisiau adeiladu dau adeilad ffrâm dur 120 wrth 24 metr yr un a fyddai yn gartref ar gyfer 50,000 o ieir yr un, yn ogystal â mynediad ar gyfer cerbydau.
Dywedodd Pennaeth penderfyniadau cynllunio Llywodraeth Cymru, Lewis Thomas: “Gofynnwyd i Weinidogion Cymru alw’r cais i mewn.
“Rwy’n gofyn i’ch cyngor i beidio â rhoi caniatâd cynllunio fel bod cyfle i alluogi ystyriaeth bellach ynglŷn ag a ddylai’r cais gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu.
“Mae’r cyfarwyddyd yn atal eich cyngor rhag rhoi caniatâd cynllunio yn unig; nid yw'n ei atal rhag parhau i brosesu neu ymgynghori ar y cais.
“Nid yw ychwaith yn ei atal rhag gwrthod caniatâd cynllunio.”
‘Elw’
Dywedodd yr asiant, Gail Jenkins o Roger Parry and Partners, mai fferm deuluol oedd un Lyndon Jones.
“Mae Cwmafan yn fferm gymysg 293 erw gyda gwartheg a phraidd mawr o ddefaid.
“Mae Lyndon Jones yn rhedeg y fferm deuluol ynghyd â’i rieni ac mae ganddo ddau fab 18 ac 16 oed sy’n ymwneud yn weithredol â’r fferm ac sydd â diddordeb brwd mewn amaethyddiaeth.
“Mae’r teulu wedi ymchwilio’n llawn i’r fenter, maen nhw’n fwy na hyderus y gall yr unedau fod yn llwyddiant ac ychwanegu at elw presennol y fferm.”