Anelu am Gymru 'ddi-fwg' wrth i Lafur ystyried gwahardd tybaco yn Lloegr
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn anelu am Gymru "ddi-fwg", wrth i'r blaid Lafur yn San Steffan ystyried gwahardd gwerthiant tybaco yn Lloegr.
Pe bai'r blaid yn dod i rym yn Llundain, mae Ysgrifennydd Iechyd cysgodol y blaid wedi dweud y gallai gwerthiant tybaco ddod i ben yn raddol fel rhan o gynllun Llafur i wella iechyd cyhoeddus.
Dywedodd Wes Streeting y bydd y blaid yn Lloegr yn cynnal ymgynghoriad ar becyn o fesurau, gan gynnwys gwaharddiad graddol o dybaco fel sydd ar y gweill yn Seland Newydd.
Wrth siarad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg ar y BBC, dywedodd: "Un o'r pethau a gafodd ei argymell i'r Llywodraeth yn un o'r adolygiadau oedd dod â gwerthiant sigaréts i ben yn llwyr mewn amser.
"Byddwn yn ymgynghori ar hynny ac ystod eang o fesurau eraill."
Bydd Seland Newydd yn cyflwyno oedran ysmygu fydd yn cynyddu'n raddol sy'n golygu na fyd modd gwerthu tybaco i unrhyw un sydd wedi eu geni ar ôl 1 Ionawr 2009.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymrwymedig i helpu pobl i wneud gwahaniaethau cadarnhaol i'w iechyd a lles ac i gefnogi ein hamcan o Gymru ddi-fwg."