Newyddion S4C

Costau byw: Siop Fferm yng Ngwynedd yn cau ei drysau 'am ddeufis o leiaf'

Costau byw: Siop Fferm yng Ngwynedd yn cau ei drysau 'am ddeufis o leiaf'

Newyddion S4C 08/01/2023

Gyda chostau trydan o hyd at £100 y dydd, mae Siop Fferm Abersoch wedi cau ei drysau am ddeufis o leiaf.

Pan agorodd Sion Edwards y busnes 18 mis yn ôl, roedd yn benderfynol y byddai'r lle yn ganolbwynt i'r gymuned leol drwy gydol y flwyddyn.

Ond gyda rhewgelloedd ac oergelloedd yn llyncu arian, mae'r cwmni wedi gorfod ymateb i'r "argyfwng" costau ynni.

Mae diffyg sicrwydd am gefnogaeth ariannol hirdymor yn golygu bod tua chwarter cwmnïau Cymru yn "lleihau eu busnes, cau eu busnes neu newid yn radical", yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.

Bydd y cynllun lleihau biliau ynni yn dod i ben ym mis Mawrth, gyda Llywodraeth y DU yn dweud bod y rhaglen yn "ddrud iawn" i'w rhedeg.

Ar hyn o bryd mae'r Trysorlys yn cynnal adolygiad o'r sefyllfa ac yn dweud y bydd cyhoeddiad cyn hir ynghylch y camau nesaf, fydd yn rhoi "sicrwydd am gefnogaeth" i fusnesau.

Ddiwrnod cyn i'r busnes gau am y gaeaf, roedd digon o fynd a dod yn Siop Fferm Abersoch.

Ond roedd sawl oergell a rhewgell wedi eu diffodd, wrth i bethau dynnu at ei derfyn.

"Os wnawn ni ddal i fynd fel 'ydan ni rŵan, fyddan ni ddim yma yn y gwanwyn," meddai Sion Edwards, perchennog y cwmni.

Image
Sion Edwards
Mae Sion Edwards yn berchen ar Siop Fferm Abersoch.

'Rhaid gwneud rhywbeth'

Bwriad y busnes, sy'n cynnwys caffi ac sy'n gwerthu nwyddau lleol, oedd helpu'r fferm deuluol i oroesi yn y tymor hir - ond ar hyn o bryd, mae'n gwneud y gwrthwyneb.

Cyfarpar allweddol sy'n golygu fod eu biliau yma mor uchel.  Ar y cychwyn, roedd Sion yn teimlo y byddai oergelloedd agored yn gwneud i'r cynnyrch edrych yn fwy "deniadol" - ond gyda chostau mor uchel, mae wedi gosod stripiau plastig ar yr oergelloedd, sydd wedi lleihau eu costau rhywfaint.

"Mae'r busnes edrych yn dda 'ma yn mynd drwy'r ffenest," meddai.

"Roedd hi'n fater o raid i ni wneud rhywbeth, neu eu diffodd nhw a chymryd y golled o beidio gwerthu dim byd fel 'na."

Ymhlith mesurau eraill, mae'r caffi wedi bod yn defnyddio un peiriant coffi yn llai, wedi diffodd boeleri, a thorri oriau gwaith staff.

Mae Sion yn cydnabod mai ymwelwyr "tymhorol" sy'n gyrru'r busnes, ond y llynedd fe benderfynodd aros ar agor drwy'r gaeaf, gan gyflogi pedwar neu bum aelod o staff a derbyn unrhyw golledion ariannol.

Eleni byddai hynny'n amhosib, meddai, gydag incwm y gaeaf "ddim yn twtsiad yr ochrau" o ran costau ynni a chyflogau.

"Y peth mwyaf trist amdano fo ydy mae hwn yn ganolbwynt cymdeithas," meddai.

"Mae'n bechod - bechod ein bod ni'n gorfod torri'r cyswllt yna o bobl yn cyfarfod ei gilydd, a does 'na'm llawer o nunlle arall yn agos fydd yn 'gored drwy'r gaeaf."

O edrych ar y tymor hir, mae Sion yn pryderu.

"Dwi'n poeni'n ofnadwy.  Mae'n amser i fusnesau bach i ddod at ei gilydd a bod rhywun yn dod aton ni a thrio esbonio sut mae pethau'n mynd ymlaen.

"Os 'neith pethau barhau fel maen nhw, fydd 'na ddim busnesau bach."

Image
Siop Fferm Abersoch
Mae Siop Fferm Abersoch wedi cau am y gaeaf.

'Argyfwng'

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) wedi disgrifio'r sefyllfa bresennol i fusnesau Cymru fel "argyfwng" wrth geisio delio â chostau ynni cynyddol. 

Yn ôl pennaeth polisi'r FSB, mae'r sefyllfa gynddrwg ag unrhyw adeg yn ystod pandemig Covid-19, gyda chwarter o fusnesau naill ai'n "lleihau eu busnes, cau eu busnes neu newid yn radical". 

Gyda chymorth Cynllun Rhyddhad Mesur Ynni Llywodraeth y DU yn dod i ben ddiwedd Mawrth, mae'r ffederasiwn yn galw am gymorth hirdymor i fusnesau.

"Y brif broblem 'dan ni'n clywed sy'n beryg i dipyn o fusnesau ydy'r costau egni a'r ffaith fod 'na ansicrwydd yn parhau ar hyn o bryd ar beth sy'n digwydd wedi Ebrill," meddai Dr Llyr ap Gareth.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n gallu sicrhau fod 'na sicrwydd, lle mae hynny'n bosib, fod 'na gynllun mewn lle ar gyfer y tymor hir a bod busnesau yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol."

Wrth ddisgrifio'r hyn mae'r ffederasiwn yn ei glywed ar lawr gwlad, dywedodd: "Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd i fusnesau bychain yn greisis eto, a dweud y gwir. 

"Mae e cyn waethed, mwy na thebyg, â unrhyw adeg yn Covid i lawer iawn o fusnesau.

"Mae'n bwysig i bob Llywodraeth edrych ar sut maen nhw'n gallu cefnogi busnesau bach, i dynnu costau lawr, eu cefnogi nhw efo egni wedi mis Ebrill, dros y tymor hir."

'Gwerth am arian i'r trethdalwyr'

Dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys Llywodraeth y DU eu bod yn amddiffyn busnesau rhag costau ynni uchel trwy'r Cynllun Rhyddhad Mesur Ynni chwe mis o £18bn.

Serch hynny, maent yn dweud fod hyn yn ddrud iawn a bod angen iddynt sicrhau gwerth am arian yn y tymor hir i'r trethdalwyr.

Maent felly yn cynnal adolygiad o'r sefyllfa ac yn cyhoeddi canlyniad yr arolwg yn y flwyddyn newydd i sicrhau fod gan fusnesau ddigon o sicrwydd i'r dyfodol cyn i'r cynllun presennol ddod i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod fod y sefyllfa'n "hynod heriol". 

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd: "Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom gyhoeddi £460m mewn cymorth ardrethi annomestig ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf i helpu pob busnes sy'n cael trafferth gyda chostau cynyddol.

"Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r pwerau cyllidol angenrheidiol i ddarparu'r amddiffyniad sydd ei angen ar unwaith yn wyneb yr argyfwng hwn. 

"Rydym yn parhau i annog y Canghellor i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bobl a busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.