Rhybudd melyn am law i'r rhan helaeth o Gymru ddydd Mawrth

Glaw / Ymbarel

Mae rhybudd melyn am law wedi ei gyhoeddi ar gyfer y rhan helaeth o Gymru ddydd Mawrth.

Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd y glaw trymaf ar dir uchel, gyda hyd at 80-100mm yn debygol o syrthio mewn rhannau o Eryri.

Mae'r rhybudd yn golygu bod llifogydd yn debygol a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithiau ceir gael eu hoedi gan gyflwr y ffyrdd.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 6:00 fore Mawrth ac yn parhau tan 20:00 nos Fawrth.

Mae 16 o siroedd wedi eu heffeithio gan y rhybudd melyn sef:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen
  • Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.