Newyddion S4C

Rhaglen Bore Sul Radio Cymru yn rhoi teyrnged i'w chynhyrchydd Aled Glynne

08/01/2023
Aled Glynne Davies

Mae rhaglen Bore Sul Radio Cymru wedi talu teyrnged i'w chynhyrchydd, Aled Glynne Davies.

Fe aeth Aled Glynne ar goll ar Nos Galan ac fe gadarnhaodd yr heddlu ddydd Mercher fod corff wedi ei ddarganfod ym Mae Caerdydd.

Ar ddechrau rhaglen Bore Sul ar Radio Cymru ddydd Sul, fe roddodd y cyflwynydd Elliw Gwawr deyrnged iddo ar ran y rhaglen yr oedd yn ei chynhyrchu.

"Mae ei farwolaeth wedi dod fel sioc i bawb a mae cydymdeimlad pawb ar y rhaglen yma yn mynd i 'w wraig Afryl, sydd hefyd wedi bod yn gweithio ar y rhaglen hon, ei blant Gwenllian a Gruff, a'i holl deulu, ffrindia' a pawb oedd yn ei 'nabod," meddai.

"Fe wnaeth Aled gyfraniad mawr i Radio Cymru, darlledu Cymru.  Roedd ganddo angerdd am glywed straeon pobl o bob cwr o Gymru ac roedd eisiau sicrhau bod pobl Cymru, ble bynnag oedden nhw'n byw yn clywed eu hunain ar ein sianel genedlaethol."

Roedd Mr Davies yn olygydd BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

Dywedodd Angharad Mair, oedd yn gweithio fel cyflwynydd newyddion pan oedd yn olygydd, ei fod yn angerddol am ddefnyddio Cymraeg clir a dealladwy.

"Dwi'n cofio'n iawn ei angerdd at iaith, iaith darlledu, iaith gywir ond ddealladwy.  Iaith syml ac mae'r hyn oedd e'n ei gyflawni gyda chyflwynwyr mor bwysig heddi ag erioed."

Ychwanegodd Dylan Iorwerth a weithiodd gydag Aled yn y BBC am nifer o flynyddoedd: "Mi na'th o newid pethau o ddifri o ran sain Radio Cymru, doedd Radio Cymru ddim yn swnio ddim byd tebyg ar ôl iddo ddod yno."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.