
Seren Gogglebocs Cymru yn rhannu stori ysbrydoledig ei mab
Mae’r seren Gogglebocs Cymru, Nia Phillips, wedi siarad am daith ei mab yn brwydro yn erbyn spina bifida yn y gobaith y bydd yn ysbrydoli pobl ifanc eraill sy’n byw ag anableddau.
Soniodd Nia, sy’n fam sengl o Drefach, Llanelli am siwrnai George a chanmolodd y cynhyrchwyr rhaglenni annibynnol Cwmni Da a Chwarel am eu hagwedd gynhwysol at gastio.
Mae Nia, sy’n 50 oed, a’r plant George, 20 oed, ac Olivia, 16 oed, wedi ymddangos gyda’i gilydd ar y sioe ers i’r fersiwn Gymraeg gael ei dangos gyntaf ym mis Tachwedd.
Ers hynny, mae’r triawd sy’n hoff o chwaraeon wedi ymddangos yn rheolaidd ar y sgrin ac yn aml i’w gweld yn rhoi eu hasesiadau byrfyfyr o chwaraeon yr wythnos.
Ond ni fydd y rhan fwyaf o wylwyr yn ymwybodol bod George, sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 3 mewn gwyddor chwaraeon yng Ngholeg Sir Gȃr yn Llanelli ac sydd wedi rhoi ei galon ar yrfa fel dadansoddwr rygbi, wedi cael diagnosis o spina bifida o fewn ychydig ddyddiau i gael ei eni.
Mae’r cyflwr yn cael ei achosi pan nad yw rhan o’r tiwb niwral - sy’n datblygu yn y pen draw i fod yn ymennydd a llinyn asgwrn cefn baban - yn datblygu neu’n cau’n iawn.
Mae hyn yn arwain at ddiffygion ym madruddyn y cefn ac esgyrn yr asgwrn cefn. Mae’r cyflwr fel arfer yn weladwy adeg geni a gall achosi anableddau corfforol a deallusol ysgafn neu ddifrifol.
Dywedodd y cyn-weithiwr y cyngor, Nia, na chymerodd hi’n rhy hir i gefnogwr y Scarlets ymlacio o flaen y camera ac i’w agwedd hynod gadarnhaol ddisgleirio.
“Mae’n anhygoel, rwyf mor falch ohono,” meddai.
“Mae’r gwylwyr yn gweld George yn eistedd i lawr yn ystod y rhaglen felly ni fydd y mwyafrif o bobl yn sylwi bod ganddo anabledd.
“Nid yw pobl wir yn sylweddoli beth sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig – ry’n ni i gyd yn byw o fewn ein swigod ein hunain. Mae’r sioe yn wych yn yr ystyr yna, mae’n wirioneddol amrywiol ac yn dangos cryfder Cymru.
“Mae George yn ysbrydoliaeth. Rwy’n gwybod mai fy mab i yw e, ond mae’n anhygoel. Mae popeth yn frwydr iddo fe o ddydd i ddydd, ond mae’n bwrw ymlaen. Mae ganddo wên ar ei wyneb bob amser.”
‘Llawdriniaeth’
O fewn pum wythnos gyntaf ei fywyd, cafodd George gyfres o lawdriniaethau mawr yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd gan gynnwys llawdriniaeth siyntio i drin amheuaeth o hydroseffalws, llawdriniaeth ar yr asgwrn cefn a thriniaeth i drin ei goluddyn tyllog.
“Ces i feichiogrwydd hollol iach a doedd dim byd wedi dod lan ar y sganiau,” esboniodd Nia.
“Pan gafodd George ei eni, roedd ganddo bothell ar ei gefn felly fe aethon nhw ag e i’r uned gofal arbennig a dweud wrthon ni i beidio â phoeni.
“Y bore wedyn, daeth y pediatregydd i mewn a chafodd olau glas i ysbyty Caerdydd. Daeth gwely ar gael a chafodd lawdriniaeth bob wythnos am bum wythnos.
“Cawsom ein rhybuddio y byddai’n dioddef niwed i’r ymennydd ac mewn cyflwr diymateb parhaol ac na fyddai byth yn cerdded nac yn siarad. Mae wedi profi pob un ohonynt yn anghywir. Nid yw’n cerdded yn bell iawn ac mae’n defnyddio’r gadair olwyn yn y coleg, ond does dim byd yn ei rwystro, mae’n ymladdwr go iawn.”
Fel dilynwyr selog y gyfres realiti ar Channel 4 yn Saesneg, roedd y teulu wrth eu boddau yn cael eu gwahodd i ymuno â chast y fersiwn Gymraeg ac maent eisoes wedi dod yn enwogion bach yn eu cymuned leol.
“Ry’n ni’n caru Gogglebox ac ry’n ni bob amser wedi ei wylio gyda’n gilydd. Mae’n brofiad hyfryd gwneud hyn gyda’n gilydd fel teulu,” meddai Nia, sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi.
“Mae George yn nabod ei rygbi tu fewn a thu fas. Mae gyda fe farn bendant iawn! Mae fy merch yn chwarae rygbi i dîm Merched Mynydd Mawr.
“Roedd braidd yn swreal i ddechrau. Mi wnaethon nhw fwy neu lai gymryd y cyfan o’r ardal lawr stâr drosodd a do’n i ddim yn disgwyl hynny ond mae’r criw wedi bod yn wych, maen nhw wedi dod yn rhan o’r teulu nawr.
“Mae’n debyg ein bod ni’n nerfus ac yn bryderus ar y rhaglen gyntaf ond wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaen a’r un criw yn dod draw bob wythnos, ry’ch chi’n adeiladu perthynas gyda nhw ac yn ymlacio nes eich bod chi bron yn anghofio eich bod chi’n ffilmio.
“Mi wnes i ddweud mod i eisiau torri gwallt Gareth Bale i ffwrdd yn ystod un rhifyn – dw i’n meddwl i fi ddweud y byddwn i’n hoffi mynd â siswrn ato! Darllenais ychydig o sylwadau amdano ar ôl hynny!
“Rwy’n ceisio gwylio beth rwy’n ei ddweud a hyd yn hyn does dim rhegi wedi bod! Pan fydd dieithryn llwyr yn dod atoch chi ac yn gofyn i chi a ydych chi ar Gogglebocs, mae’n mynd â chi’n ôl. Yn amlwg mae pobl yn ei wylio gartref ond mae’n swreal. Mae wedi digwydd ychydig o weithiau wrth i fi fod mas yn siopa.”
‘Sbectrwm’
Comisiynodd S4C gwmnïau cynhyrchu annibynnol Cwmni Da a Chwarel, y ddau wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru, i gyd-gynhyrchu’r fersiwn Gymraeg gyntaf erioed o raglen fformat Channel 4 a Studio Lambert yn yr hydref.
Darlledwyd y rhaglen gyntaf yn ystod wythnos gyntaf Tachwedd gyda’r gyfres newydd yn taro’r sgriniau ddydd Mercher, Ionawr 4, ar ôl rhaglen arbennig yr enwogion ar Ragfyr 28.
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Huw Maredudd fod y sioe eisoes yn mynd lawr yn dda gyda’r gwylwyr.
“Roedd y bloc cyntaf yn llwyddiannus iawn ac yn boblogaidd diolch i raddau helaeth i’n cast a holl waith caled y criwiau,” meddai.
“Yn amlwg roedden ni’n ceisio cynrychioli sbectrwm mor eang â phosib o’r gymuned Gymraeg ac felly mae gennym bobl o bob oed o John yn ei 70au hyd at ein haelod cast ieuengaf, Olivia, sy’n 16 oed.
“Mae’n teimlo fel ein bod ni’n gwylio gyda nhw, ac maen nhw i gyd wedi mwynhau’r profiad sef y peth pwysicaf. Cawn ni eu mwynhau nhw yn mwynhau eu hunain fel gwylwyr gartref.
“Aeth llawer o waith i sicrhau bod y cast cyfan yn ategu ei gilydd a’u bod i gyd yn gweithio ar eu pen eu hunain yn ogystal â chlytwaith cyfan hefyd.
“Felly roedden ni eisiau rhoi cyfle i bawb gymryd rhan ond roedd rhaid iddyn nhw hefyd gyfiawnhau eu lle. Yn amlwg, mae George yn seren ac rydym wedi cyflwyno’r teulu’n naturiol yn yr un ffordd â phawb arall. Wnaethon ni ddim trin neb yn wahanol i neb arall, maen nhw yno oherwydd eu bod yn ddoniol ac yn fyrlymus ac yn rhan o fywyd bob dydd Cymraeg.
“Gobeithio, byddwn ni nôl yn hwyrach yn y flwyddyn gyda chast dw i’n gobeithio fydd wedi dod yn hen ffrindiau i’r gynulleidfa erbyn hynny. Rydym yn edrych ymlaen at wneud llawer mwy.”

‘Bachu ar y cyfle’
Mae Stephen Williams, seren arall y Gogglebocs Cymraeg, a gafodd ei eni a’i fagu ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, yn ymddangos ar y rhaglen gyda’r brodyr Huw, 62 oed, peiriannydd wedi ymddeol sydd wedi troi at weithio fel ecstra teledu ac sydd bellach yn byw yng ngogledd Cymru, a Mike, 64 oed, sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru ac sydd hefyd o Frynaman, ar ôl methu â pherswadio ei wraig Melaney i roi cynnig arni.
“Rydw i a fy ngwraig yn wylwyr brwd o Gogglebox ac unwaith i ni weld cyfle gydag S4C fe wnes i awgrymu wrth fy ngwraig ein bod ni’n gwneud hynny ond doedd hi ddim yn awyddus,” cyfaddefodd y cyfrifydd 57 oed.
“Fe wnes i sôn am y peth wrth Huw a oedd ar fin ymddeol, ac fe wnaethon ni fachu ar y cyfle. Rydych chi’n disgwyl gyda’r math hwn o fenter y byddai miloedd o bobl yn ceisio cael lle ar y soffa, felly daeth yn dipyn o sioc pan gawsom alwad yn ôl am brawf sgrin. Unwaith i ni ddechrau ar y prawf sgrin, roedd y cyfan yn teimlo’n naturiol iawn.
“Pryd bynnag rydyn ni’n cyfarfod, mae yna dipyn o sgwrsio a thynnu coes bob amser - rydyn ni’n mwynhau cwmni ein gilydd yn fwy na dim. Mae wedi bod fel ‘na erioed - fel arfer fi sy’n ei chael hi gan mai fi yw’r ieuengaf ond dros y blynyddoedd rwyf wedi gwneud fy siâr o dynnu coes.
“Mae gan Huw dipyn o ochr ddramatig erioed – ac nid dim ond gyda stwff teledu ond yn y tŷ hefyd. Gall wneud stori un munud yn epig deng munud.”
‘Dwyn bwyd’
Mae Stephen, sy’n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac sydd â mab, Rhys, 31 oed, a merch, Bethan, 21 oed, wedi agor ei ystafell fyw ar gyfer y ffilmio sydd wedi achosi cryn gynnwrf yn y pentref.
“Mae pobol y pentref yn ein nabod ni ac mi fydda i’n cael rhai yn dod lan ataf a dweud, ‘ydych chi’n dal i siarad â ni nawr eich bod chi’n seren teledu?’. Mae’r cyfan mewn ysbryd da a chyfeillgar,” meddai.
“Dywedais wrth Huw y bydda i’n codi am wely a brecwast os cawn ail gyfres!
“Un o sêr ychwanegol y sioe yw fy nghi cocker spaniel Caleb. Mae’n cerdded i mewn i’r ffilmio o dro i dro ac yn cymryd rhan. Mae’n dueddol o ddwyn y bwyd pan nad ydym yn edrych a bachu’r bisgedi oddi ar y bwrdd.
“Mae’n gwybod bod rhywbeth yn digwydd felly mae’n chwarae i fyny ychydig. Mae’n bendant yn ganolbwynt sylw ac mae’r criw yn ei adnabod nawr felly mae’n ffrindiau gyda phawb.
“Mae’n siŵr y bydd e’n fwy enwog na neb ar ôl hyn!”

‘Rhugl’
Mae’r dysgwr Cymraeg Marcus Whitfield, sy’n rhedeg prosiect sy’n cynnig profiadau penwythnos i ddysgwyr eraill i drochi eu hunain yn y Gymraeg a’i diwylliant, yn ymddangos ar y sioe gyda ffrind a chyd-ddysgwr Vicki Edmunds, 71 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae’r dyn 51 oed, gafodd ei eni a’i fagu ym Mwcle, ger Wrecsam, hefyd yn rhedeg grŵp Facebook ar gyfer dysgwyr Cymraeg gyda 9,000 o ddilynwyr.
“Un o’r rhesymau roeddwn i eisiau gwneud hyn oedd cynrychioli’r bobl sy’n dysgu Cymraeg,” meddai Marcus, sydd bellach yn byw yn Rochester, Caint, ac yn berchen ar fusnes sy’n cyflenwi cynnyrch gwallt i drinwyr gwallt yn ogystal â gwely a brecwast yn Great Yarmouth o’r enw The Hotel of Wizardry.
“Mae yna bobl allan yna fel ni oedd yn gallu medru rhywfaint o Gymraeg ac sydd bellach yn siarad yn rhugl ar y teledu mewn rhaglen fel Gogglebocs – roedden ni’n meddwl y byddai hynny’n beth positif i ddysgwyr Cymraeg.”
Wrth siarad am ei gyd-seren, ychwanegodd: “Mae Vicki yn gymeriad byrlymus iawn. I mi, hi yw’r nain y mae pawb yn ei haeddu. Mae ganddi deulu mawr sydd i gyd yn meddwl y byd ohoni.
“Am y cwpl o wythnosau cyntaf ar y sioe fe fydden ni’n dweud ein dweud a chyn gynted ag y byddai’r diwrnod drosodd, fe fydden ni’n meddwl ‘efallai na ddylen ni fod wedi dweud hynny’. Bellach ry’n ni’n troi fyny, dweud ein darn, a pheidio poeni amdano mwyach!”