Streic trenau yn achosi oedi i deithwyr ar benwythnos cyntaf 2023
Mae streic trenau yn achosi oedi i deithwyr ar benwythnos cyntaf 2023.
Aelodau o undebau RMT ac ASLEF sy'n cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol sydd yn parhau ddydd Sadwrn ar ôl ail-ddechrau ddydd Gwener.
Mae'r rhan helaeth o wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau wedi eu canslo o ganlyniad i'r streic.
Bydd rhai gwasanaethau cyfyngedig yn cael eu cynnal rhwng Caerdydd Canolog a Threherbert, Aberdâr, Merthyr a Rhymni a rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd.
Ond mae'r gwasanaethau yma yn llai na'r arfer ac ar gyfer teithio hanfodol yn unig.
Bydd gwasanaethau cyntaf y dydd ond yn dechrau am 7:00 a bydd rhai gwasanaethau hwyr y nos yn cael eu canslo.
Nid oes anghydfod uniongyrchol rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r undebau erbyn hyn, ond yn hytrach mae aelodau'r undebau sy'n gweithio i gwmni Network Rail yn streicio.
Ond gan mai Network Rail sydd yn gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd, nid oes modd cynnal gwasanaethau trên arferol.
Mae undebau RMT ac ASLEF yn dweud eu bod yn streicio dros gyflogau ac mae RMT wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o rwystro cytundeb rhwng yr undebau a Network Rail.
Mae Network Rail yn dweud eu bod yn "siomedig" nad oes cytundeb wedi ei gytuno a'u bod yn parhau i fod ar gael am "sgwrs adeiladol".
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol RMT, Mick Lynch: "Rydym wedi gweithio gyda'r diwydiant rheilffordd i gyrraedd setliadau sydd wedi eu negydu'n llwyddiannus byth ers preifateiddio yn 1993. Ac rydym wedi sicrhau cytundebau ar draws y rhwydwaith yn 2021 a 2022 lle nad yw'r Adran Drafnidiaeth ynghlwm ag e.
"Ond yn yr anghydfod hwn, mae lefel digynsail o ymyrraeth gan weinidogion, sydd yn rhwystro gweithwyr rheilffyrdd rhag gallu negydu pecyn o fesurau gyda ni, fel ein bod yn gallu dod â'r anghydfod i ben."