Newyddion S4C

Pryderon am 'arogl gwenwynig' ger chwarel yn ardal Caerffili

06/01/2023
Y cynghorydd Jan Jones a Chwarel Ty Llwyd, llun gan Paul Cawthorne
Y cynghorydd Jan Jones a Chwarel Ty Llwyd

Mae ymchwiliad wedi dechrau i “arogl gwenwynig” yn dod o goetir ger chwarel yn ardal Caerffili.

Mae cynghorwyr wedi codi pryderon am lygredd posib yn y chwarel ger Ynysddu ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymchwilio.

Ym mis Chwefror, 2022 codwyd pryderon am lygredd “hanesyddol” yn y chwarel sydd gerllaw tai Teras Caerllwyn a Theras Pontgam.

Dywedodd y Cynghorydd Jan Jones, sy’n cynrychioli Ynysddu, fod yr ardal yn “drewi” o rywbeth tebyg i sylffwr.

Dywedodd ei chyd-aelod yn y ward, y Cynghorydd Janine Reed: “Mae arogl cemegol cryf iawn yn y coetir islaw’r chwarel, lle mae llwybr cyhoeddus.

“Dylai’r cyngor brofi’r pridd yn yr ardal hon ac egluro pam nad oes ffensys nac arwyddion yn rhybuddio pobl i gadw draw.”

‘Tir preifat’

Mae'r ddau gynghorydd Annibynnol wedi gofyn i'r Cynghorydd Sean Morgan, arweinydd y cyngor, ailsefydlu pwyllgor Chwarel Tŷ Llwyd a'u cynnwys mewn cyfarfod i drafod y safle.

Mae’r cyngor wedi dweud eu bod nhw’n gweithio ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru i ddadansoddi samplau o’r chwarel.

Cynhelir cyfarfod gyda'r ddau gorff cyhoeddus ym mis Chwefror i drafod ymhellach.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae’r cyngor wedi bod yn monitro’r safle dros gyfnod y Nadolig a byddwn yn parhau i wneud gwaith monitro dyddiol.

“Mae’r chwarel ar dir preifat ac fe ddylai’r cyhoedd nhw gadw draw o’r ardal yn ystod cyfnodau o law trwm.”

Llun: Y cynghorydd Jan Jones a Chwarel Ty Llwyd, llun gan Paul Cawthorne

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.