Newyddion S4C

Aberystwyth yn gartref i'r ganran uchaf o bobol hoyw yng Nghymru

06/01/2023

Aberystwyth yn gartref i'r ganran uchaf o bobol hoyw yng Nghymru

Gogledd Aberystwyth sydd â’r ganran uchaf o bobol hoyw ar draws Cymru, yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Roedd 16.56% o’r boblogaeth yng ngogledd y dref yn dweud eu bod nhw’n lesbiaid, hoyw, deurywiol neu fel arall, yn ôl ffigyrau gan yr ONS a gyhoeddwyd heddiw.

Roedd 7.12% o’r boblogaeth yn rhan ddeheuol y dref hefyd yn dweud eu bod nhw’n hoyw.

Roedd ffigyrau uchel Aberystwyth yn golygu mai sir wledig Ceredigion oedd â’r lleiaf o bobol yn datgan eu bod yn heterorywiol drwy Gymru gyfan.

84.7% yn unig o bobol Ceredigion oedd yn dweud eu bod yn heterorywiol. Roedd pob ardal yn Lloegr oedd â ffigyrau tebyg yn ganolfannau dinesig.

Ceredigion oedd yr unig sir wledig yng Nghymru a Lloegr gyda chanran mor uchel â hynny o bobol yn dweud wrth y cyfrifiad eu bod nhw'n hoyw.

Roedd 4.87% o boblogaeth Ceredigion yn dweud eu bod nhw’n lesbiaid, hoyw, deurywiol neu fel arall, yn ôl yr ONS.

Roedd rhannau o ganol Llundain gyda ffigyrau uwch, gan gynnwys dros 10% yng nghanol Dinas Llundain.

Yn llai annisgwyl o bosib, Caerdydd oedd y sir â’r ganran uchaf o bobol hoyw yng Nghymru gyda 5.33% o’r boblogaeth yn dweud eu bod nhw’n hoyw.

O fewn Caerdydd, roedd 12.08% o’r boblogaeth ym Mhlasnewydd yn hoyw.

Roedd 13.81% o bobol yn ninas Bangor hefyd yn hoyw, gan awgrymu efallai bod lleoliad prifysgolion wedi dylanwadu ar y ganran.

Llun: Aberystwyth gan Jeremy Segrott (CC BY 2.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.