Carcharu dyn o Ynys Môn am o leiaf 20 mlynedd am ladd ei bartner Buddug Jones

06/01/2023

Carcharu dyn o Ynys Môn am o leiaf 20 mlynedd am ladd ei bartner Buddug Jones

Mae dyn 52 oed wedi cael ei garcharu am o leiaf 20 mlynedd, sef dedfryd oes, am ladd ei bartner.

Cafodd Colin Milburn ei garcharu ddydd Gwener am ladd ei bartner, Buddug Jones, 48 oed ym mis Ebrill y llynedd.

Fe ddioddefodd Buddug Jones anafiadau difrifol i'w phen ar ôl cael ei bwrw ag arf yn ei thŷ yn Rhydwyn ger Caergybi.

Ymosododd ar ei bartner tra oedd hi'n cysgu.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Milburn yn sicr bod ei bartner o dros 30 blynedd yn cael affêr, rhywbeth yr oedd hi'n gwadu.

Roedd Milburn wedi ei ddyfarnu'n euog o lofruddiaeth yn dilyn achos llys tair wythnos o hyd ym mis Tachwedd.

Image
S4C
Colin Milburn

Dywedodd Andrew Slight o wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Colin Milburn yn grediniol fod ei bartner yn cael perthynas gyda rhywun arall ac fe ymosododd yn ffiaidd arni.

“Bu’r anafiadau catastrophig a achosodd i’w phen yn angheuol.

“Cyflwynwyd tystiolaeth gref gan Wasanaeth Erlyn y Goron i ddangos mai Milburn oedd yn gyfrifol a chafodd ei ddedfrydu yn sgil hynny.

“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Buddug sydd wedi dioddef colled drom.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.