‘San Steffan yn rhan o’r broblem’ meddai Keir Starmer yn ei araith gyntaf eleni
Mae arweinydd y Blaid Lafur Keir Starmer wedi dweud bod “San Steffan yn rhan o’r broblem” ac wedi addo datganoli grym yn ei araith gyntaf eleni.
Serch hynny, doedd ei araith ddim yn crybwyll Senedd na Llywodraeth Cymru yn benodol.
Yn hytrach fe addawodd y byddai yn rhyddhau grymoedd newydd ar gyfer cymunedau a “chymryd rheolaeth yn ôl” oddi wrth San Steffan.
Byddai cymunedau ledled y Deyrnas Unedig yn elwa ar reolau newydd dros gyflogaeth, trafnidiaeth, egni a chartrefi, meddai.
“Rhaid i’r penderfyniadau sy’n effeithio ar ein cymunedau gael eu gwneud gan bobol leol sydd yn wynebu’r canlyniadau,” meddai.
“Mae angen symud grym allan o San Steffan er mwyn trawsnewid ein heconomi, ein gwleidyddiaeth a’n democratiaeth.”
Mae’r araith yn dilyn adroddiad gan Gordon Brown oedd yn addo grymoedd newydd i wahanol rannau o’r DU.
Pan gyhoeddwyd adroddiad Gordon Brown ym mis Rhagfyr, dim ond dwy dudalen oedd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â Chymru.
Serch hynny, cafodd yr adroddiad ei groesawu gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a ddywedodd fod yr addewid i ddatganoli rhai pwerau dros gyfiawnder yn agor y drws i ragor yn y dyfodol.
Wrth siarad yn y Senedd ar y pryd, dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Rwy’n croesawu adroddiad Gordon Brown, ac rwy’n croesawu’n gryf ei ymrwymiad penodol iawn y bydd datganoli cyfiawnder troseddol yn dechrau gyda’r llywodraeth Lafur nesaf.”
“Dim ond llywodraeth Lafur fydd yn gallu cychwyn ar y daith honno a’i chwblhau. Ni fydd y Torïaid yn ei wneud, ni all Plaid Cymru ei wneud, dim ond Llafur.”
Llun: Stefan Rousseau / PA