Teyrnged i ddynes a fu farw mewn gwrthdrawiad y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd
Mae teulu dynes 51 oed fu farw mewn gwrthdrawiad wedi talu teyrnged iddi.
Bu farw Mary Owen-Jones o Landrillo-yn-Rhos yng Nghonwy ar 3 Ionawr yn dilyn gwrthdrawiad y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd am tua 20:40 ar 1 Ionawr.
Roedd Ms Owen-Jones yn driniwr gwallt lleol a chynorthwyydd dysgu. Mae hi'n gadael ei gŵr Arwel, mab Andrew, ei merch Jasmine a’i hwyres April Rose.
Dywedodd ei theulu: “Roedd ganddi angerdd am fywyd a’i theulu ac roedd yn edrych ymlaen yn arbennig at fod yn nain i’w hwyres newydd-anedig, April Rose.
“Bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei hadnabod. Mae'n calonnau ar chwael, a hoffem ofyn am y preifatrwydd priodol i ganiatáu amser i ni alaru.”
Mae Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad gysylltu gyda'r heddlu cyn gynted â phosib.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru gan ddefnyddio'r cyfeirnod 23000006433.