Disgwyl i Keir Starmer ddweud fod San Steffan yn ‘canoli grym’ mewn araith heddiw
Mae disgwyl y bydd Keir Starmer yn dweud ei fod yn bwriadu symud pwerau allan o San Steffan mewn araith heddiw, gan gyhuddo’r senedd Brydeinig o “ganoli grym”.
Dywedodd y Blaid Lafur y bydd ei harweinydd yn ehangu ar gynlluniau er mwyn symud grym allan o Lundain a amlinellwyd mewn adroddiad gan Gordon Brown y llynedd.
Mae disgwyl y bydd Keir Starmer yn addo “degawd o adfywiad cenedlaethol” o ganlyniad i “ffordd newydd o lywodraethu”.
Mae disgwyl i Keir Starmer ddweud: “Mae angen ffordd hollol newydd o lywodraethu ar Brydain.
“Mae’n amhosib gorbwysleisio cymaint y mae meddylfryd tymor byr yn dominyddu San Steffan.
“Ac mae hynny’n heintio’r holl sefydliadau eraill sy’n ceisio ac yn methu rhedeg Prydain o’r canol.”
'Croesawu'
Bydd yr araith flwyddyn newydd yn dilyn un gan y Prif Weinidog Rishi Sunak ddoe.
Pan gyhoeddwyd adroddiad Gordon Brown ym mis Rhagfyr, dim ond dwy dudalen oedd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â Chymru.
Serch hynny, cafodd yr adroddiad ei groesawu gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a ddywedodd fod yr addewid i ddatganoli rhai pwerau dros gyfiawnder yn agor y drws i ragor yn y dyfodol.
Wrth siarad yn y Senedd ar y pryd, dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Rwy’n croesawu adroddiad Gordon Brown, ac rwy’n croesawu’n gryf ei ymrwymiad penodol iawn y bydd datganoli cyfiawnder troseddol yn dechrau gyda’r llywodraeth Lafur nesaf.”
“Dim ond llywodraeth Lafur fydd yn gallu cychwyn ar y daith honno a’i chwblhau. Ni fydd y Torïaid yn ei wneud, ni all Plaid Cymru ei wneud, dim ond Llafur.”