Newyddion S4C

Y Tywysog Harry yn awgrymu fod ei frawd wedi ymosod arno yn gorfforol

05/01/2023

Y Tywysog Harry yn awgrymu fod ei frawd wedi ymosod arno yn gorfforol

Mae'r Tywysog Harry wedi awgrymu fod ei frawd, Tywysog Cymru, wedi ymosod arno yn gorfforol. 

Mewn darn o'i hunangofiant, Spare, sydd wedi cael ei rannu gyda phapur newydd The Guardian, mae Dug Sussex yn awgrymu fod y digwyddiad wedi digwydd yn ei gartref yn Llundain yn 2019 lle y cafodd anaf i'w gefn ar ôl i'w frawd ymosod arno. 

Fe wnaeth hefyd gyhuddo William o alw ei wraig, Meghan Markle, yn berson "anodd" a "digywilydd", a bod hyn wedi dylanwadu ar "naratif y cyfryngau" amdani. 

Ychwanegodd Harry fod William wedi ei annog i'w daro yn ôl, ond fe wrthododd.  Ychydig yn ddiweddarach, fe wnaeth William ymddiheuro. 

Yn gynharach yn yr hunangofiant, mae'r Dug hefyd yn egluro'r rheswm tu ôl i enw'r llyfr, Spare

Yn ôl The Guardian, mae'n cyfeirio at beth ddywedodd y Brenin Charles wrth ei wraig, Diana, Tywysoges Cymru, ar ddiwrnod ei enedigaeth.

Mae'n honni fod y Brenin wedi dweud wrth Diana: "Hyfryd! Rwyt ti wedi rhoi etifedd ac un dros ben i mi - mae fy ngwaith wedi ei wneud."

Bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi ar 10 Ionawr. 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Phalas Buckingham a Phalas Kensington am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.