Annog trigolion Ynys Môn i wirio eu cyfrifon banc wedi 'gwall' treth cyngor
Mae trigolion Ynys Môn wedi eu hannog i wirio eu cyfrifon banc wedi i 1,300 ohonynt dalu treth cyngor ddwywaith yn dilyn 'gwall'.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi ymddiheuro ar ôl darganfod fod dau daliad wedi eu cymryd o rai cyfrifon.
Codwyd tâl ddwywaith mewn camgymeriad ar rai pobol a dalodd eu treth cyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar Ragfyr 21, 2022.
Mae arweinydd yr wrthblaid y Cynghorydd Aled Morris Jones wedi galw am “ymchwiliad trylwyr” er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd eto.
Dywedodd y cyngor ar eu gwefan fod y gwall wedi digwydd oherwydd “methiant yn ein prosesau”.
“Hoffem ymddiheuro’n ddiffuant am yr anghyfleustra a’r pryder a achoswyd,” medden nhw.
Ond mae’n bosib nawr y bydd rhai pobol yn cael eu had-dalu dwywaith gan y cyngor.
“Gan nad ydym yn gwybod manylion pawb a allai fod wedi derbyn ad-daliad eisoes, rydym wedi penderfynu ad-dalu pawb a effeithiwyd,” meddai’r cyngor.
“Byddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi derbyn ad-daliad dwbl yn y flwyddyn newydd i wneud trefniadau eraill i dalu’r balans sy’n weddill.”