Kit Symons yn gadael ei rôl fel is-reolwr tîm pêl-droed dynion Cymru
Mae Kit Symons wedi gadael ei rôl fel is-reolwr tîm pêl-droed dynion Cymru.
Fe wnaeth Symons ymuno â thîm hyfforddi Rob Page ym mis Mai 2021, wedi iddo hefyd fod yn is-reolwr gyda'r cyn-reolwr, Chris Coleman.
Roedd yn rhan o'r tîm hyfforddi a wnaeth sicrhau fod Cymru wedi cyrraedd EURO 2020 yn ogystal â Chwpan y Byd 2022.
Wrth siarad ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd Rob Page ei fod yn "diolch i Kit am ei waith caled a'i gyfraniad i'r tîm cenedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys gweithio mewn dwy gystadleuaeth fawr".
"Wrth i ni edrych at gyrraedd rhagor o gystadlaethau mawr, mae newid wastad yn bwysig er mwyn parhau gyda'r cynnydd yn y garfan. Dwi'n dymuno pob dymuniad da i Kit ar gyfer y dyfodol."
Llun: CBD Cymru