Newyddion S4C

Technoleg newydd yn dal treisiwr plant oedd wedi symud i Sir Benfro

04/01/2023
Martyn Armstrong
Martyn Armstrong

Mae treisiwr plant oedd wedi symud i Sir Benfro wedi ei garcharu am oes diolch i ddatblygiad technoleg newydd.

Cafodd Martyn Armstrong ei adnabod wedi i ymchwilwyr arbenigol o’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol ddatblygu'r dechnoleg er mwyn datgelu ei wyneb ar fideo.

Roedd wedi bod yn defnyddio ffilter ar y fideo er mwyn cuddio ei wyneb wrth iddo dreisio ac ymosod yn rhywiol ar blant a gyrru’r delweddau at bedoffiliaid eraill ar y we dywyll.

Cafodd y dyn 50 oed ei atal a’i arestio gan Heddlu De Cymru wrth yrru ar yr M4 ar 30 Gorffennaf 2022, yn dilyn cais gan yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.

Plediodd Martyn Armstrong yn euog i'r troseddau yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Medi 2022 a phlediodd yn euog i gyhuddiadau pellach ar 10 Tachwedd.

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, Martin Ludlow: “Mae dros 17 mlynedd ers i Armstrong ddechrau cam-drin y plant hyn.

“Dydw i ddim yn credu ei fod yn meddwl y byddai byth yn cael ei ddal.  Roedd wedi credu y byddai'r ffilter a ddefnyddiodd yn ei amddiffyn.

“Fodd bynnag, roedd yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol a’n partneriaid rhyngwladol yn benderfynol o sicrhau y byddai ei weithredoedd drwg yn cael eu cosbi.

“Yn y pen draw, datblygodd swyddogion yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol raglen gwbl newydd a arweiniodd at ei ddal.

“Gwnaeth ein hymchwilwyr waith rhyfeddol wrth gasglu'r wybodaeth at ei gilydd a datgelu o'r diwedd mai Armstrong oedd yr unigolyn yn y delweddau hyn.

“Byddwn yn parhau i gydweithio a gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â throseddwyr fel Armstrong o flaen eu gwell ac amddiffyn plant diniwed rhag camdriniaeth rywiol.”

Troseddau

Dechreuodd y cam-drin 17 mlynedd yn ôl ym mis Mehefin 2005 a pharhaodd tan fis Chwefror 2011.

Roedd asiantaethau cyfreithiol ledled y byd wedi bod yn ceisio adnabod y dyn ers i'r deunydd troseddol gael ei gyhoeddi yn 2010.

Yn 2017 llwyddodd ymchwilwyr yn Yr Eidal i gysylltu’r enw ‘Martyn’ i’r dyn a greodd y delweddau ond doedd dim modd iddynt fynd ymhellach na hynny.

Yna dechreuodd ymchwilydd o Ffrainc weithio ar yr achos ac adnabod traeth oedd yn weladwy yn rhai o’r delweddau.

Daeth i’r casgliad fod y traeth naill ai yng Nghymru neu Iwerddon wedi ymchwilio i ddaeareg y dirwedd.  Wedi ymchwil pellach gwelodd fod y dirwedd yn cyd-fynd ag arfordir Sir Benfro.

Yn 2022 llwyddodd yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol i ddatgelu wyneb y troseddwr, a drwy gyfuniad o’i enw a lleoliad Sir Benfro roedd modd ei adnabod.

Daeth yn amlwg bod Martyn Armstrong wedi byw yn Swydd Derby yn Lloegr ond wedi symud gerllaw'r traeth yn Sir Benfro.

Gwnaeth yr ymchwilwyr lwyddo yn ogystal i baru'r delweddau o’r tŷ yn Swydd Derby gyda rhai o’r delweddau gwreiddiol a gafodd eu creu yn 2009.

Yn dilyn ei arestio fe ddaeth swyddogion o hyd i’r camerâu a gafodd eu defnyddio i greu’r delweddau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.