Llangrannog fydd cartref Eisteddfod T eleni

13/05/2021
Gwersyll yr Urdd Llangrannog

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi y bydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog eleni.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor y Sulgwyn.

Cafodd Eisteddfod T 2020 ei darlledu o stiwdio dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, gyda’r Urdd yn “addo gŵyl ddigidol fwy arloesol fyth” eleni.

Mae’r Urdd wedi cadarnhau y bydd prif seremonïau’r ŵyl yn cael eu cynnal ar leoliad yng Ngwersyll Llangrannog, Ceredigion, gan ddilyn canllawiau Covid-19.

Yn ôl yr Urdd, mae 12,000 wedi cystadlu yn yr eisteddfod eleni, gyda’r trefnwyr hefyd yn cadarnhau bod perfformiadau rhai unigolion wedi cael eu hail-recordio mewn stiwdios darlledu.

Ymateb ‘syfrdanol’

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Hoffwn ddiolch o galon i’r 12,000 sydd wedi cystadlu yn Eisteddfod T y tro hwn – sy’n ddwbl niferoedd llynedd. O Fôn i Fynwy ac o Drelew i Dubai, mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol.

“Mi ydan ni fel trefnwyr mor falch mai Gwersyll yr Urdd Llangrannog fydd cartref Eisteddfod T eleni. Mae’r ganolfan yn lleoliad eiconig yng Nghymru, a gwerth cenedlaethau o atgofion melys yn perthyn i’r lle. Bydd medru cynnal prif seremonïau’r ŵyl yno yn fonws, hefyd.”

Mae gwersylloedd yr Urdd wedi bod ar gau i ymwelwyr ers dechrau’r pandemig, ond mae rhai yn falch o weld yr “adnodd hynod o bwysig” yn cael defnydd unwaith eto.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn croesawu Eisteddfod T yma i Geredigion gyda balchder a hyder y cawn wythnos o gystadlu brwd a diogel. Mae’r Gwersyll yn Llangrannog yn adnodd hynod o bwysig i’r mudiad ac i ni yng Ngheredigion, a braf iawn yw gweld yr Urdd yn gwneud defnydd o’r Gwersyll mewn ffordd greadigol i hybu adloniant i blant a phobl ifanc Cymru. 

“Mae’r Cyngor Sir a’r Mudiad wedi gweithio’n agos iawn dros y misoedd diwethaf i sicrhau trefniadau a fydd yn boddhau gofynion a rheolau Covid-19 yn llawn. Edrychwn ymlaen yn fawr i weld y wledd o gystadlu a mwynhau dros wythnos yr Eisteddfod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.