Llywodraeth Cymru yn gofyn i gael gwybod am ymwelwyr o Tsieina sy'n dioddef o Covid-19
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gael gwybod am ymwelwyr o Tsieina sydd wedi gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd Covid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod oedd gweld “a oes angen tynhau’r trefniadau” sydd ganddynt mewn lle.
Daw hyn wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud nad oes angen i ymwelwyr o Tsieina hunan ynysu wrth gyrraedd y DU.
“Rydyn ni wedi gofyn i’r GIG yng Nghymru roi gwybod i ni am unrhyw bobl sydd wedi cyrraedd o Tsieina yn yr 14 diwrnod diwethaf ac sydd wedi gorfod mynd i ysbyty oherwydd COVID-19 er mwyn gweld a oes angen tynhau’r trefniadau," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Gan nad oes hediadau uniongyrchol o Tsieina i Gymru, nid oes gennym ni na’r llywodraethau datganoledig eraill fwriad i wneud rheoliadau."
Cyfyngiadau
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Mark Harper, eu bod yn gofyn am brofion gan bobol sydd yn cyrraedd o China er mwyn "casglu gwybodaeth" - gan ddweud fod llywodraeth Beijing yn gwrthod ei rannu.
Bydd yn rhaid i ymwelwyr sydd yn teithio o China i'r DU gymryd prawf Covid-19 cyn cael mynediad i'r wlad. Heathrow yw'r unig faes awyr yn y DU sydd yn cynnig hediadau uniongyrchol o China.
Yn ddiweddar fe wnaeth Llywodraeth Tsienia lacio eu cyfyngiadau Covid-19, gan alluogi i bobl deithio dramor am y tro gyntaf ers 2020.
Mae pryderon y gall y nifer o achosion o Covid-19 gynyddu'n sylweddol ar draws y byd wrth i drigolion o’r wlad ddechrau teithio yn rhyngwladol.
Mae yna hefyd bryderon dros amrywiolion newydd posib yn lledaenu yn y wlad, gyda rhai gwledydd yn codi cwestiynau dros ddibynadwyedd ffigyrau Covid-19 Llywodraeth China.
Mae nifer o wledydd eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau ar deithwyr o Tsienia gan gynnwys yr UDA, Japan a'r Eidal.