'Pryder y bydd mwy o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau oherwydd problemau ariannol'
![ITV Cymru](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/ITV_Cyrmu-Wales.png)
Mae elusen yn ofni y gall llawer o bobl golli eu bywydau wrth droi at alcohol a chyffuriau i ddianc rhag pwysau costau byw.
Mae’r elusen Kaleidoscope yn dweud bod nifer y bobl sy’n marw o achos alcohol a chyffuriau yng Nghymru ar ei uchaf.
Yn 2021, bu farw 472 o bobl o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol, gyda 210 yn marw o gamddefnyddio cyffuriau. Mae yna bryderon cryf y bydd y twf yma yn parhau i gynyddu.
Mae Cullan Mais yn un o’r rhai sy’n cefnogi pobl yn yr elusen, ac mae’n dweud ei bod hi’n gyfnod pryderus iawn.
Dywedodd wrth ITV Cymru: “Mae pobl yn defnyddio cyffuriau i ddianc rhag rhywbeth, os yw’r broblem yn tyfu ac yn tyfu, wrth gwrs mae pobl yn mynd i blymio'n ddyfnach mewn i’w dibyniaeth, neu’n waeth - cymryd eu bywydau."
Mae Cullan yn gweithio gyda Vinnie, sydd heb ddefnyddio cyffuriau ers tua tair blynedd, ar ôl eu defnyddio nhw am y tro cyntaf yn 14 oed.
Mae Vinnie nawr yn helpu defnyddwyr y gwasanaeth gyda’u hiechyd meddwl. Mae’n dweud na fyddai yma heddiw heb ei swydd yn Kaleidoscope.
“Roeddwn i ychydig ar goll wrth geisio gwella, nes imi ddod o hyd i hyn, a dwi’n caru beth dwi’n ei wneud,” meddai.
Fodd bynnag, ei brif bryder yw nad yw ei gyflog yn yr elusen yn gallu sefyll yn erbyn y pwysau cynyddol o ran costau byw.
Dywedodd: “Rydw i’n dibynnu ar fanciau bwyd, mae’n anodd iawn, dydw i ddim yn troi’r gwres ymlaen adref.
“Dwi wir yn ofni troi’r gwres ymlaen, i droi’r nwy ymlaen achos mae’n gas gen i weld y bil nesaf, achos does gen i ddim o'r arian.”
Mae Prif Weithredwr Kaleidoscope, Martin Blakebrough, yn dweud os yw’r elusen am barhau i gynnig cymorth hanfodol a chyflogaeth, mae angen cymorth i aros ar gael.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i’r cyflog byw, ond beth sydd wir yn drasig yw mae’r gost o fyw go iawn yn effeithio ar nifer ein staff," meddai.
“Dyw hynny ddim yn gallu bod yn iawn. Os yw Llywodraeth Cymru yn ddifrifol am fynd i’r afael â phroblemau cyffuriau ac alcohol, mae angen ein cefnogi yn y sector hwn.”
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi cynyddu'r cyllid yn fwy nag erioed, gyda £67 million i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau a helpu elusennau i gwrdd â phwysau chwyddiant.