Bwrdd iechyd yn wynebu cost o £100m ar waith cynnal a chadw sydd heb ei gwblhau
Mae bwrdd iechyd wedi datgelu ei fod yn wynebu cost o £100m ar waith cynnal a chadw sydd heb ei gwblhau.
Cafodd Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe ei feirniadu am beidio â datgelu maint y gost pan holodd y Ceidwadwyr Cymreig y manylion.
Datgelodd byrddau iechyd eraill Cymru eu bod yn wynebu cost ar y cyd o £785.5m ar waith cynnal a chadw sydd heb ei gwblhau ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021-22.
Roedd y Ceidwadwyr wedi cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth er mwyn cael y ffigyrau.
Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, yr Aelod o Senedd Cymru Russell George, fod y ffigwr yn “syfrdanol” a’i fod yn dangos “diffyg arweinyddiaeth” gan weinidogion Llywodraeth Cymru.
“Heb fynd i’r afael â’r broblem yma mae yna beryg y bydd apwyntiadau a thriniaethau yn cael eu canslo,” meddai Russell George.
“Drwy oedi’r gwaith a chaniatáu i’r gwaith cynnal a chadw gynyddu mae’r peryg hefyd yn cynyddu.”
‘Dim cynnydd’
Ymddiheurodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am yr oedi cyn ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd ei fod yn amcangyfrif eu bod yn wynebu cost o £100m ar waith cynnal a chadw sydd heb ei gwblhau.
“Mae holl sefydliadau’r GIG yn wynebu heriau tebyg o ran gwaith cynnal a chadw adeiladau,” meddai’r bwrdd iechyd mewn datganiad.
“Mewn llawer o achosion, mae’r adeiladau’n hen ac mae angen cryn dipyn o waith cynnal a chadw arnynt er mwyn bodloni’r safonau gofynnol ac i barhau’n weithredol.
“Mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar y cyfalaf, sy’n cynnwys gwaith cynnal a chadw, datblygu ac arloesi.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd oedd cynnal eu hadeiladau.
“Does dim cynnydd wedi bod i’n cyllidebau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Serch hynny rydyn ni wedi buddsoddi £335m mewn prosiectau cyfalaf o fewn y GIG yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol a £375m arall yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cefnogi sefydliadau o fewn y GIG wrth gynnal a thrawsnewid eu hystadau.”
Llun: Ysbyty Treforys sydd dan reolaeth Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe