Mark Drakeford i gyhoeddi cabinet newydd ddydd Iau
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, benodi ei gabinet newydd ddydd Iau yn dilyn buddugoliaeth y blaid Lafur yn yr etholiad wythnos ddiwethaf.
Cafodd Mr Drakeford ei ail benodi fel Prif Weinidog ddydd Mercher gan aelodau'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn cyntaf.
Gydag adolygiad o gyfyngiadau Covid-19 ar y gweill ddydd Gwener, mae disgwyl gabinet Llywodraeth Cymru gwrdd yn fuan er mwyn cytuno ar unrhyw newid.
Er bod Mr Drakeford yn brin o fwyafrif, nid oes awgrym hyd yma y bydd yn tynnu aelodau o bleidiau eraill i ymuno â'r cabinet fel y gwnaethpwyd gyda'r cyn-weinidog addysg ac aelod dros y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, nôl yn 2016.
Roedd Ms Williams wrth y llyw am bum mlynedd cyn iddi benderfynu camu lawr cyn yr etholiad, ac mae disgwyl cyhoeddiad ar gyfer pwy fydd ei olynydd ryw bryd ddydd Iau.
Mae'r cabinet wedi'i ffurfio o 12 rôl, gan gynnwys y Prif Weinidog, sy'n gwneud prif benderfyniadau'r llywodraeth, megis cyllid, iechyd, yr amgylchedd, yr economi, tai, a'r Gymraeg.