Capten Iwerddon yn amheuaeth ar gyfer gêm gyntaf Gatland wrth y llyw
Mae amheuaeth a fydd capten Iwerddon Johnny Sexton yn holliach i wynebu Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddo ddioddef anaf i asgwrn ei foch.
Cafodd y maswr 37 oed ei anafu yn ystod buddugoliaeth Leinster dros Connacht yn yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddydd Sadwrn.
Cadarnhawyd eisoes na fydd Johnny Sexton yn cael ei gynnwys yn y gêm yn erbyn y Gweilch penwythnos nesaf.
Bydd Cymru yn croesawu Iwerddon i Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 4ydd Chwefror yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad eleni.
Dyna hefyd fydd gêm gyntaf hyfforddwr newydd Cymru, Warren Gatland, wrth y llyw.
“Mae Sexton wedi dioddef anaf i asgwrn ei foch yn ystod y gem yn erbyn Connacht ac fe fydd yn cael asesiad yn hwyrach ymlaen heddiw,” meddai llefarydd ar ran Leinster.
Iwerddon sydd ar frig rhestr timau rygbi rhyngwladol gorau’r byd ar hyn o bryd tra bod Cymru yn y 9fed safle.
Methodd Sexton, sydd â 109 o gapiau, dwy o gemau Iwerddon yn yr hydref gydag anaf.