Mudwyr: Heddlu’r DU yn patrolio traethau Ffrainc
Mae swyddogion Llu Ffiniau y Deyrnas Unedig wedi dechrau patrolio traethau Ffrainc am y tro cyntaf mewn ymgais i atal llif y mudwyr sy’n croesi Sianel Lloegr, yn ôl adroddiadau.
Digwyddodd y patrôl cyntaf ychydig cyn y Nadolig ar ôl misoedd o drafodaethau rhwng swyddogion y DU a Ffrainc.
Nod y cydweithio yw rhoi mwy o wybodaeth i swyddogion y DU am weithgarwch smyglo pobl, tactegau a symudiadau mudwyr.
Fodd bynnag, “arsylwyr” yn unig yw swyddogion y DU sydd wedi’u lleoli yn Ffrainc. Mae hynny yn golygu na fydd ganddyn nhw unrhyw hawliau i arfer pwerau fel arestio rhywun am weithred droseddol.
Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod 45,756 o fudwyr wedi croesi’r Sianel i’r DU yn 2022, sef y nifer uchaf erioed.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Mae’r argyfwng mudo byd-eang yn achosi straen digynsail ar ein system lloches.
“Ni ddylai neb beryglu eu bywydau drwy gymryd teithiau peryglus ac anghyfreithlon. Byddwn yn mynd ymhellach i fynd i’r afael â’r gangiau sy’n gyrru hyn, gan ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ni i atal mudo anghyfreithlon ac amharu ar fodel busnes smyglwyr pobl.”