Newyddion S4C

Apêl teulu am wybodaeth wedi diflaniad Aled Glynne Davies yng Nghaerdydd

02/01/2023
Aled Glynne Davies

Mae teulu un o gyn-olygyddion BBC Radio Cymru wedi apelio am wybodaeth ar ôl iddo fethu â dychwelyd adref nos Sadwrn. 

Cafodd Aled Glynne Davies, sy'n 65 oed, ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna yng Nghaerdydd am tua 23:30 nos Galan. 

Ben bore Llun, daeth aelodau o'r gymuned ynghyd i chwilio amdano yn yr ardal honno.   

Roedd yn gwisgo cot werdd dywyll a het werdd dywyll pan gafodd ei weld ddiwethaf nos Galan.

Dywedodd ei deulu ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod "ar goll ac angen tabledi ar frys."

Ychwanegodd y teulu fod hyn yn rhywbeth "annodweddiadol dros ben ac mae'r teulu i gyd yn poeni yn fawr."

Yn gyn olygydd BBC Radio Cymru, mae Aled Glynne Davies bellach yn rhedeg cwmni cynhyrchu radio a theledu.

Mae'r heddlu wedi cael gwybod fod Mr Davies ar goll ac mae'r teulu yn apelio ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am ei leoliad i gysylltu gyda Heddlu De Cymru.

Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.