Chris Bryant yn dod yn farchog fel rhan o anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Mae AS y Rhondda, Chris Bryant, wedi ei wneud yn farchog yn anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Dyma'r anrhydeddau Blwyddyn Newydd cyntaf i gael eu cyflwyno gan Charles III ers iddo ddod yn Frenin ym mis Medi.
Mae Sophie Ingle, Capten Pêl-droed Merched Cymru, yn derbyn OBE.
Mae'r Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, hefyd wedi derbyn CBE yn yr anrhydeddau.
Mae'r Cynghorydd Aurfron Roberts sy'n cynrychioli'r blaid Lafur ar Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf hefyd yn derbyn MBE.
Mae nifer o weithwyr sifil Llywodraeth Cymru wedi derbyn anrhydeddau hefyd, gan gynnwys Cyfarwyddwr Prosiect Profi, Olrhain a Gwarchod Cymru.
Tu hwnt i Gymru, mae'r ASau Alok Sharma a Julian Lewis wedi eu gwneud yn farchogion.
Mae Brian May o'r band Queen a'r arlunydd Grayson Perry hefyd wedi eu gwneud yn farchogion.
Mae'r cyflwynydd a'r cyn-bencampwr Olympaidd Denise Lewis wedi ei gwneud yn fonesig.
Mae'r newyddiadurwr Anne Diamond, yr awdur John Suchet, a'r actorion Stephen Graham a David Harewood wedi derbyn OBEs.
Mae awdur y gyfres lyfrau i blant Horrid Henry, Francesca Simon, a'r cyn bêl-droediwr a'r cyflwynydd, Chris Kamara, hefyd wedi derbyn MBE.