Newyddion S4C

Jonny Clayton a Gerwyn Price yn cyrraedd wyth olaf Pencampwriaeth Dartiau'r Byd

30/12/2022
clayton price

Mae Jonny Clayton a Gerwyn Price wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaethau'r Byd nos Iau.

Enillodd Clayton o 4-3 yn erbyn Josh Rock tra y gwnaeth rhif 1 rhestr detholion y byd dartiau, Gerwyn Price, er nad oedd yn chwarae ar ei orau, guro Jose de Sousa o 4-1.

Kim Huybrechts neu Dimitri van den Berghtra fydd gwrthwynebydd Clayton yn rownd yr wyth olaf tra y bydd Price yn wynebu Gabriel Clemens neu Alan Soutar ar Ddydd Calan. 

Enillodd Price y bencampwriaeth yn 2021, a bydd y ffeinal eleni yn cael ei chynnal ar 3 Ionawr. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.