Teyrnged i ddyn 'caredig' a fu farw ddydd Nadolig yn Abertawe
Mae teulu dyn fu farw wedi i gar blymio i Afon Tawe ar ddydd Nadolig wedi talu teyrnged iddo.
Roedd Rachel Curtis a Jay Kyle Jenkins yn 36 oed. Roedd y ddau yn teithio mewn car Mini pan blymiodd i'r afon yn Abertawe yn ystod oriau man bore Nadolig.
Cafodd cyrff y ddau ohonynt, a oedd yn ffrindiau ysgol, eu darganfod yn yr afon.
Wrth dalu teyrnged iddo, fe wnaeth teulu Mr Jenkins, o ardal Saint Thomas yn Abertawe, ei ddisgrifio fel eu "bachgen caredig a hardd.
"Roedd Jay yn ysbryd caredig, oedd wastad yn helpu pobl eraill," ychwanegodd ei deulu.
Fe wnaeth teulu Ms Curtis, o ardal Bonymaen y ddinas, hefyd dalu teyrnged i fam "digri, galluog, unigryw a thalentog.
"Bydd colled enfawr ar ei hôl, ac mae'r golled fwyaf i'w mab 14 oed. "
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth, yn enwedig gan unrhyw un a welodd y car yn mynd i mewn i'r afon. Maen nhw'n awyddus i bobl gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200429694.
Llun: Heddlu De Cymru